Sut i gael 14 panad o 1 can diod

Os welwch chi gan diod, cofiwch ei godi a’i ailgylchu!

Mor syml â hynny! Wrth godi ac ailgylchu 1 can alwminiwm gallwch arbed digon o ynni i ferwi dŵr ar gyfer 14 panad o de!

Mae’r broses ailgylchu yn arbed hyd at 95% o’r allyriadau ynni a nwyon tŷ gwydr cysylltiedig o’i chymharu â chynhyrchu caniau o ddeunyddiau crai. Ar ben hynny, mae’r can diod gwag yr ydych yn ei ailgylchu heddiw yn debyg o fod yn ôl ar y silff, fel can newydd, mewn llai na 60 diwrnod.

Y dewis arall yw gadael i’r can gwag yna gael ei gladdu o dan haenau o fwd a brwgaits, neu i’r cyngor ei gasglu a’i gladdu. I gynhyrchu can newydd, mae’n rhaid mwyndoddi 16g o alwminiwm o hyd at 64g o focsit craidd. Mae’r bocsit wedi ei gloddio mewn gwledydd megis Jamaica, Gorllewin Affrica, Awstralia a De America.

O focsit i banad

Nid yw alwminiwm yn adnodd prin. Mewn gwirionedd, dyma’r metel mwyaf toreithiog ar y ddaear, cymaint ag 8% o gramen y ddaear. Fe’i ceir yn naturiol ar ffurf bocsit, mwyn sy’n cynnwys alwminiwm ocsid, neu alwmina.

Ond mae’r broses o fwyndoddi bocsit amrwd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sef 15kWh o drydan ar gyfartaledd i gynhyrchu 1kg o alwminiwm. Yn 2010, defnyddiwyd dros 3% o holl gyflenwad trydan y byd i echdynnu alwminiwm. Dyna pam fod mwyndoddi alwminiwm yn dibynnu’n aml ar gontractau ynni “rhad” sydd â chysylltiad ag ynni niwclear, megis rhwng Alwminiwm Môn a gorsaf ynni niwclear Wylfa.

Peidiwch â gadael iddo gael ei wastraffu

Mae cyfraddau ailgylchu alwminiwm wedi cynyddu’n sylweddol ers cyflwyno mesurau megis ailgylchu ymyl y ffordd. Ond mae 3 biliwn (sef 3,000,000,000) o ganiau diod alwminiwm yn dal i gael eu colli neu eu claddu bob blwyddyn yn y DU.

Dyma dros 46,000 tunnell o alwminiwm, gan wastraffu 400,000 tunnell o allyriadau CO2 a 646,000MWh o drydan bob blwyddyn;

Ar raddfa lai, mae ailgylchu 1 can alwminiwm yn arbed oddeutu 0.25kWh, hy:

  • digon o ynni i ferwi dŵr ar gyfer 14 panad o de
  • ynni sy’n gyfartal â gyrru hanner milltir (mewn car sy’n gwneud 50myg)
  • digon o ynni i wylio teledu sgrîn fflat modern am 5 awr.

Felly … wrth godi can o’r llawr, gallwch arbed ynni ar gyfer 14 panad!

A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi wrth i fi weithio tuag at fy nharged o godi ac ailgylchu 2,000 o ganiau a chodi £2,000 tuag at waith Cymdeithas Eryri.

 

aluminium drinks can

Wrth godi ac ailgylchu 1 can alwminiwm gallwch arbed digon o ynni i ferwi dŵr ar gyfer 14 panad o de!

 

 

Comments are closed.