Ystafelloedd moethus ar gael
Mae Cymdeithas Eryri yn dathlu ei 50fed pen-blwydd swyddogol yn fferm Dyffryn Mymbyr ar ddydd Sadwrn 10 Mehefin gan wahodd ffrindiau ac aelodau i ymuno am deithiau cerdded, sgyrsiau a the p’nawn yn y lleoliad godidog hwn yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Lle gwych i fwrw’r sul!
Mae’r Gymdeithas wedi archebu ffermdy Dyffryn Mymbyr o ddydd Gwener 9 Mehefin hyd ddydd Llun 12, gan roi i aelodau’r cyfle i aros am y penwythnos cyfan. Rydym yn gofyn am rodd ar gyfer un o’r tair ystafell wely sydd ar gael. Mae’r holl arian a godir yn mynd at ein Cronfa’r Dyfodol 50 Mlynedd i helpu i diogelu nodweddion arbennig y Parc Cenedlaethol am flynyddoedd i ddod.
Dyffryn Mymbyr
Rhwng Pen y Gwyryd a Chapel Curig, cyn-gartref Esmé Kirby gŵr Thomas Firbank yw ffermdy Dyffryn Mymbyr, a lleoliad llyfr I Bought a Mountain.
I archebu ‘stafell
Nid oes pris sefydlog i rentu ystafell ar gyfer y penwythnos – gofynnir i aelodau i wneud cynnig. Ond cofiwch fod yr ystafelloedd yn mynd yn gyflym! Am fwy o wybodaeth ac i wneud cynnig am ystafell, cysylltwch â Claire:information and to bid for a room, contact Claire:
- claire@snowdonia-society.org.uk
- 01286 685498
Nodwch: National Trust Holidays yw perchennog Ffermdy Dyffryn Mymbyr. Gweler eu gwefan am ragor o wybodaeth.