Diwrnod bythgofiadwy yn y mynyddoedd

Diwrnod bythgofiadwy yn y mynyddoedd

Ddydd Sadwrn diwethaf, fe wnaeth criw o gerddwyr o Gymdeithas Eryri, dan arweiniad y mynyddwr Rob Collister, fwynhau diwrnod gwirioneddol fythgofiadwy ym mynyddoedd Eryri.  

Yn dilyn canslo’r digwyddiad yn gynharach eleni oherwydd nifer o stormydd eira, o’r diwedd, bu aelodau’r Gymdeithas yn ddigon ffodus i gael yr hyn a ddisgrifir yn Alpau Ffrainc fel diwrnod ‘grand beau’ ym masiff Ogwen. 

Cychwynnodd y grŵp eu taith o dan awyr las, ac fe wnaethant igam-ogamu rhwng pileri o graith sy’n frith o gwarts ar grib ogleddol Tryfan cyn sgrialu i fyny llecyn serth i gyrraedd y copa. 

Fe wnaeth saib byr am ginio ger pentiroedd enwog Siôn a Siân gynnig cyfle i wneud ‘y naid’ i’r sawl oedd yn ddigon dewr i wneud hynny. Mae’n ddefod bwysig i lawer sy’n ymweld â’r mynydd.

Ar ôl mynd i lawr y grib ddeheuol i Fwlch Tryfan, fe wnaeth y grŵp yr esgyniad gylïog olaf i fyny’r Grib Bigog ac i’r Glyder Fach i dynnu llun o’r grŵp ar garreg ‘Y Gwyliwr’, cyn mynd i lawr Y Gribyn ac yn ôl i faes parcio Bwtres Carreg Filltir.

Hoffai Cymdeithas Eryri ddiolch i’r sawl a gyfranogodd mewn diwrnod gwych dan amgylchiadau tywydd eithriadol o dda yn y gwanwyn, ac am eu cyfraniadau hael at waith y Gymdeithas.  Diolch o galon hefyd i Rob am arwain y grŵp ac am rannu cymaint o sylwadau ynghylch natur a diwylliant y mynyddoedd yn ystod y daith.

Ydy hyn yn apelio atoch chi? Darllenwch am y teithiau cerdded eraill byddwn yn eu cynnal yn 2018 yma. 

Comments are closed.