Cwrw’r hanner canmlwyddiant i’r tîm buddugol

Cwrw’r hanner canmlwyddiant i’r tîm buddugol

Nos Fawrth diwethaf, fe wnaeth llond ystafell o gystadleuwyr gyfranogi mewn cwis misol yn y Douglas Arms ym Methesda i godi arian at waith Cymdeithas Eryri. 

Cafodd hambwrdd o fins peis eu rhannu tra chafodd cwestiynau am y Nadolig a rhai anodd eu holi er mwyn herio’r cystadleuwyr. Fe wnaeth cwestiwn penderfynu heriol sicrhau fod yr enillwyr yn haeddu eu gwobr o 12 potel o gwrw hanner canmlwyddiant Cymdeithas Eryri.

Fe wnaeth tîm o staff a chyfeillion y Gymdeithas gyfranogi hefyd, gan ddod yn drydydd da ar ddiwedd cwis hynod o anodd.

Fe wnaeth y cwisfeistr a’r aelod lleol Gareth Jones enwebu Cymdeithas Eryri i gael yr enillion o’r cwis fel rhan o’i hanner canmlwyddiant eleni, enghraifft wych o sut gall y gymuned leol gyfrannu at gefnogi’r Gymdeithas.

Beth am ei ffonio ni neu ein he-bostio ni os ydych chi’n teimlo’n angerddol ynghylch Eryri ac hefyd yn dymuno bod yn hyrwyddwr codi arian dros Gymdeithas Eryri?

Tel: 01286 685498
Email: info@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.