1,029 can wedi achub = 142kg o CO2 wedi arbed

Ar ôl pigo 85 o ganiau i fyny yn Llanberis dydd Sadwrn, rwyf yn hanner ffordd i fy nharged o 2,000 can. Mae hyn yn golygu mod i wedi arbed 142kg o CO2.

Os na wyddoch am y cysylltiad rhwng caniau diod a chynhesu byd eang, gweler fy eitem blog Sut i gael 14 panad o 1 can diod.

Diolch o galon i bawb sy wedi cyfrannu at neu wedi noddi fy her CodiCanArbedCarbon. £639 yw’r cyfanswm am roddion a noddi hyd yn hyn. Pob elw at Cymdeithas Eryri i helpu i gadw Eryri’n arbennig.

Gwell byth, mae nifer o bobl wedi dweud bod nhw wedi hysbrydoli i bigo caniau neu sbwriel i fyny yn eu hardaloedd ei hun.

Blog CodiCanArbedCarbon

Rwyf wedi lansio blog bydd yn trafod themau’n gysylltiedig â sbwriel, caniau alwminiwm a chynhesu byd eang. Dyma’r eitemau cyntaf:

Rhannwch ar Facebook neu drydar, neu anfonwch nhw ymlaen, a gawn ni godi ymwybyddiaeth am y wastraff o ynni sydd yn sbwriel alwminiwm.

A ydych chi’n arwr sbwriel?

Wrth i fi siarad efo mwy o bobl rwyf yn darganfod llawer o bobl eraill sy’n codi sbwriel hefyd. Rwyf am ysgrifennu blog am yr arwyr sbwriel ‘ma. Sgynnoch chi hanes buasech yn hoffi rhannu?

Ac os nad ydych wedi ‘wneud eisioes,

Frances
Cyfannu  Noddwch fi
Blog CodiCanArbedCarbon

info@snowdonia-society.org.uk

Gallech ddilyn sut dwi’n mynd ymlaen yn CodiCanArbedCarbon.


 

Comments are closed.