-
Halen yn y briw
Datblygwr yn ceisio ‘caniatâd’ ôl-weithredol am fandaliaeth amgylcheddol ar Afon Lâs, Nant Peris.
Continue reading -
Glyn Rhonwy: peilonau newydd a bygwth i lynnoedd lleol?
Mae Cymdeithas Eryri yn cwestiynnu sut fydd prosiect storfa bwmp Glyn Rhonwy yn cysylltu â Grid Cenedlaethol, ac am yr effeithiau posibl ar fynediad, ac ar gyrff dŵr lleol, gan gynnwys Llyn Padarn. Mae’r datblygwr yn gwneud cais i ddyblu capasiti’r prosiect.
Continue reading -
Sgîm pŵer hydro sy wedi ei gynllunio’n ofalus?
Mae delweddau o gynllun ynni hydro sy’n cael eu hadeiladu yn dangos beth all digwydd ar ôl i jac codi baw gael mynediad i ochr mynydd, er gwaethaf ymgynghoriad priodol â’r awdurdodau.
Continue reading -
Her wedi achub 1/2 tunnell o CO2
a dros £1,400 wedi codi i’r Gymdeithas hyd yn hyn. Mae her Codi Can Arbed Carbon wedi cwblhau a mae Frances wedi ymestyn ei tharged i 3,620 can, gan achub hanner tunnell o CO2.
Continue reading -
Cyngor Gwynedd yn gwastraffu tunelli o CO2…
…drwy dirlenwi sbwriel caniau diod. Gallai mesur siml sy’n caniatáu i lanhawyr stryd wahanu caniau a gweddill y sbwriel achub cymaint â 180 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
Continue reading -
Ymgyrch caniau ar Radio Wales
Wrth i Frances agosáu diwedd ei hymgyrch casglu sbwriel alwminiwm, mae hi wedi egluro ei rhesymau am ei hymdrechion ar raglen Radio Wales ‘Country Focus’.
Continue reading -
Maniffesto ar gyfer Parciau Cenedlaethol Cymru
Mae etholiadau’r Cynulliad yn agosáu, a mae Cynghrair Parciau Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi Maniffesto. Annogwch eich ymgeiswyr lleol i gefnogi Parciau Cenedlaethol Cymru.
Continue reading -
Gormod o sbwriel. Targed ‘di daro mis yn fuan
2,000 o ganiau diod ‘di ‘codi a 270kg o CO2 ‘di hachub! A yw’n newyddion da neu’n newyddion drwg fod Frances wedi taro ei tharged Codi Can, Arbed Carbon mis yn fuan? Ydych chi wedi ei noddi eto?
Continue reading -
Ydych chi’n arwr sbwriel?
Trwy fy her CodiCanArbedCarbon, rwyf wedi cyfarfod llawer o bobl sy’n gwella eu bro lleol drwy godi sbwriel. ‘Sgynnoch chi hanes sbwriel i rannu? Hoffem ei glywed.
Continue reading -
A fyddech yn cefnogi talu ernes ar boteli a chaniau diod?
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Chyfeillion y Ddaear Cymru wedi galw am gyflwyno system talu ernes orfodol ar gynwysyddion diodydd er mwyn lleihau sbwriel a gwella cyfraddau ailgylchu. Synaid call!
Continue reading -
Gwrthod cais cynllunio i gynllun trydan dŵr Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Noddun
A’r enillydd yw…Eryri. Mae’r penderfyniad heddiw i wrthod caniatâd i’r cawr cydwladol ym maes cynhyrchu ynni, RWE, i adeiladu cynllun trydan dŵr ar Afon Conwy, yn newyddion da i breswylwyr a busnesau lleol, cerddwyr, naturiaethwyr, pysgotwyr, caiacwyr, a phobl y mae mannau gwyllt a Pharciau Cenedlaethol yn annwyl iddyn nhw. Wrth annerch aelodau’r Pwyllgor ar […]
Continue reading -
1,029 can wedi achub = 142kg o CO2 wedi arbed
Mae Frances dros hanner ffordd at ei tharged o 2,000 can diod, sy’n golygu bod hi wedi arbed 142kg o CO2. Ydych chi wedi ei noddi eto? Gallech ddarllen rhagor am sbwriel, caniau diod a chynhesu byd eang ar ei blog.
Continue reading -
Sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?
Bydd fy her sbwriel alwminiwm CodiCanArbedCarbon yn achub 30kg o ganiau diod alwminiwm. Ar ôl i’r caniau hyn gael eu hailgylchu byddaf wedi arbed dros ¼ tunnell o CO2. Ond sut mae ¼ tunnell o CO2 yn edrych?
Continue reading -
O dan bwysau: mae angen deall Parciau Cenedlaethol, nid eu tanseilio
Nid oes yr un awdurdod lleol arall yng Nghymru’n wynebu toriadau ar y raddfa sy’n wynebu’r tri Pharc Po fwyaf gwledig yr awdurdod, y gwaethaf y toriadau, ac nid oes unman yn fwy gwledig na’r Parciau Cenedlaethol. I Eryri, ar ôl toriadau o 14% dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd cyllideb 2016/17 yn cael ei […]
Continue reading -
Pam byddaf yn troi llygad dall i sbwriel
Ar daith siopa i’r dre’n ddiweddar ’nes i basio tomen gas o sbwriel wedi ei gollwng wrth ymyl bin sbwriel. Er fy nghywilydd, nes i gerdded o’i chwmpas hi. Be’ ’naeth fy atal rhag pigo’r sbwriel i fyny a’i roi yn y bin?
Continue reading -
Sut i gael 14 panad o 1 can diod
Os welwch chi gan diod, cofiwch ei godi a’i ailgylchu! Felly gallwch arbed digon o ynni i ferwi dŵr ar gyfer 14 panad o de! Pam mae cymaint ohonynt yn mynd i wastraff?
Continue reading -
6,000 o bobl yn galw ar y Gweinidog i warchod Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun
Ddydd Gwener 5 Chwefror, bydd Aelod y Cynulliad dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, yn derbyn deiseb â dros 6,000 o enwau ynddi, i’w chyflwyno’n bersonol i Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol. Mae’r ddeiseb yn gofyn iddo sicrhau fod Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun yn cael eu gwarchod rhag datblygu. Caiff y ddeiseb […]
Continue reading -
Clirio sbwriel. Arbed carbon. Noddwch fy her caniau alwminium!
“Dwi am gasglu 2,000 o ganiau diod aluminium yn ac ar gyrion Eryri. Lleihau sbwriel, arbed carbon, codi arian i waith Cymdeithas Eryri. Plis noddwch fi”
Continue reading -
Rhaeadr y Graig Lwyd a Ffos Anoddun – Pam y helynt?
(Cyfieithiad i ddod) RWE Innogy have submitted a planning application to build a 5MW hydro-electric scheme on the River Conwy. The Snowdonia Society is concerned about the potential for serious negative impacts Conwy Falls and the Fairy Glen Site of Special Scientific Interest. Here’s how you can help.
Continue reading -
Mae Eryri bellach yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol
Yn Abergynolwyn, 4ydd o Ragfyr, cyhoeddir fod Eryri bellach yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol. I ddathlu’r statws newydd hwn, dewch i Noson o Astroffotograffeg a Sêr-Fyfyrio, 14 Rhagfyr, Caffi Croesor.
Continue reading