Cefnogi Surfers Against Sewage

Cefnogi Surfers Against Sewage

Mae Cymdeithas Eryri yn cefnogi deiseb Surfers Against Sewage i ailgyflwyno taliadau ad-daladwy ar boteli i atal llygredd plastig yn ein cefnforoedd.

Bob blwyddyn, bydd Cymdeithas Eryri yn mynd i draeth Harlech i gyfranogi yng Ngweithgaredd Glanhau Traethau Mawr Prydain (GGTMP) ynghyd â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol (CCF). Mae’r data byddwn yn eu casglu yn hanfodol i’r CCF gael gwell dealltwriaeth o’r broblem sbwriel ar draethau ledled y DU.

“Yn 2015, fe wnaethom ni ganfod, ar gyfartaledd, 99 o boteli diod plastig ym mhob cilomedr y gwnaethom ei lanhau. Maent ym mhobman!” Adroddiad Gweithgaredd Glanhau Traethau Mawr 2015, y Gymdeithas Cadwraeth Forol.

Yn ystod ein Gweithgaredd Glanhau Traethau, fe wnaeth ein gwirfoddolwyr gasglu 52 potel blastig ar hyd un llecyn o draeth Harlech. Roedd hyn yn gynnydd o 22 o’i gymharu â’r 30 potel blastig y gwnaethom eu casglu yn yr un llecyn yn 2015

I ddarllen rhagor a chyfranogi yn neiseb Surfers Against Sewage, cliciwch ar y ddolen hon:

 

Surfers Against Sewage petition

I gael cyfle i wirfoddoli ar un o’n gweithgareddau glanhau traethau, edrychwch am fanylion ein diwrnodau gwaith gwirfoddol ym mis Mawrth a mis Medi:

Volunteer Workdays

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.