Ein Cydlynydd Digwyddiadur pen-blwydd
Mae’n bleser mawr gennym groesawu Claire Holmes at y tîm ar gyfer ein hanner canmlwyddiant. Hi fydd yn cydlynnu ein digwyddiadur eleni.
Mae gynni hi gefndir ym meysydd cadwraeth a dylunio, a mae hi wedi cynllunio digwyddiadau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. “Rwy’n frwdfrydig ynghylch natur a diwylliant Eryri, fy nghynefin, ac edrychaf ymlaen at rannu stori’r Gymdeithas trwy’r digwyddiadau niferus rydym wedi’u cynllunio ar gyfer 2017,” medda hi.
“Fel y gwyddoch yn barod o bosibl, mae 2017 yn flwyddyn arbennig i ni ac mae’n nodi ein hanner can mlwyddiant. O brynhawn yng nghwmni Iolo Williams yn ein CCB ym mis Hydref, i bicnic i ddathlu ein pen-blwydd swyddogol ym Mehefin, mae gennyn ni lwyth o ddigwyddiadau amrywiol yn y calendr ar gyfer aelodau hen a newydd. Bydd ein rhaglen lawn yn cael ei anfon allan gyda’r cylchgrawn ar ddiwedd mis Mawrth.
“Edrychaf ymlaen at eich gweld yn fuan iawn!”
Cysylltwch â Claire ar:
01286 685498
claire@snowdonia-society.org.uk