Bydd siopa yn Co-op Llanrwst yn cyfrannu!
Diolch i’r Co-op am ddewis Prosiect Ecosystem Eryri i elwa o’u Cronfa Gymunedol Leol.
Mae’r Co-op yn cyfrannu 1c o bob £ 1 a wariwyd i achosion lleol ac ar gyfer y 6 mis nesaf, bydd y Prosiect yn derbyn cyfran o’r gronfa a gynhyrchir gan y siop Co-op Llanrwst. Bydd hyn yn helpu i ddarparu cludiant i alluogi grwpiau ysgolion mewn ardaloedd gwledig a phobl o bob cefndir i gael budd o wirfoddoli yn Eryri.
Gyda llawer o safleoedd dyddiau gwaith i wirfoddolwyr ymhell o unrhyw lwybr bws, mae diffyg cludiant preifat yn gallu peri problem i wirfoddolwyr sy’n ymuno â’n dyddiau gwaith. Er mwyn sicrhau bod ein cyfleoedd i wirfoddoli ar gael i bawb, mae Project Ecosystem Eryri yn darparu cludiant am ddim o leoliadau allweddol i ddau ddiwrnod gwaith y mis o leiaf. Gellir ymestyn y trefniant hwn hefyd i grwpiau. Diolch i GNC a CAE am noddi’r fenter hon.
“Mae Gronfa Gymunedol Leol y Co-op yn rhoi yn ôl at ein miliynau o aelodau a’u cymunedau, yn darparu cyllid i achosion lleol y mae ein haelodau yn poeni amdanynt,” meddai’r Co-op .
A ydych yn siopa yn Llanrwst?
Os ydych yn siopa yn Llanrwst ac yn aelod o’r Co-op byddwch yn cefnogi ein gwirfoddolwyr! Os nad ydych yn aelod o’r Co-op eisioes, ymaelodwch fan hyn.
Os ydych eisoes yn aelod o’r Coop gallwch ddewis Cymdeithas Eryri i dderbyn eich 1% cymunedol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar wefan y Coop neu ffonio’r ganolfan gyswllt ar 08000 234708.
If you are already a Coop member you can nominate the Snowdonia Society to receive your community 1% by logging into your account on the Coop website or ringing the contact centre on 08000 234708.
£516 wedi ei gyfrannu trwy’r treth am fagiau plastig
Mae’r Co-op eisoes wedi rhoi £516 trwy ei ardoll ar fagiau plastig. Er ein bod yn annog pawb i gario bagiau plastig sbâr pan fyddant yn siopa, rydym yn falch o dderbyn y cyfraniad hwn!
Diolch o galon i’r Co-op!
—
—