Cylchgrawn yr hydref

Clawr cylchgrawn

Mae rhifyn hydref o ein cylchgrawn nawr ar gael, a thrafnidiaeth yn Eryri yw’r thema. Darllen y cylchgrawn ar-lein.

Yn y Golygyddol medda John Harold, Cyfarwyddwr y Gymdeithas: “Hydref yn Eryri: coedydd sy’n cynnal ffyngau aeddfed, afonydd yn gorlifo yn dilyn cawodydd trymion, a dyddiau perffaith prin gydag awyr las trawiadol uwchben y bryniau. Mae ein Parc Cenedlaethol yn lle hyfryd i’w archwilio’r adeg hon o’r flwyddyn. Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn bwrw golwg ar deithio o le i le yn Eryri.

“Rydym wedi hen arfer â bywyd sy’n dibynnu ar gerbyd modur. Mae mynediad torfol i fannau gwyllt wedi esblygu o bosibilrwydd i realiti. Mae mynediad wrth ddefnyddio’r car bellach yn arferol, ac un canlyniad yw prinhad yng ngallu rhai i sicrhau mynediad mor rhwydd. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y sawl sy’n dibynnu ar gludiant cyhoeddus, un ai o ddewis ai peidio, yn aml wedi edwino ac wedi methu â sicrhau ffyniant o ran gwasanaeth.”

Darllen gweddill y cylchgrawn ar-lein.

Yn y cylchgrawn hefyd mae ein Digwyddiadur Gaeaf.  Lawrlwytho’r digwyddiadur.

Ymaelodwch â Chymdeithas Eryri er mwyn derbyn bob rifyn trwy’r post.

Comments are closed.