Cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri 2023

Cystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Eryri 2023

Rydym wedi lansio ein pumed cystadleuaeth ffotograffiaeth flynyddol ac yn gwahodd ffotograffwyr brwd i anfon eu hoff ddelweddau Eryri i mewn erbyn y dyddiad cau, sef dydd Llun 26 Mehefin 2023.  

Dewisir deuddeg llun buddugol a fydd yn cael eu cyhoeddi yng nghalendr y Gymdeithas ar gyfer 2024, sydd ar gael i’w brynu ar-lein o fis Medi ymlaen. Bydd y deuddeg enillydd yn derbyn calendr am ddim yn dangos eu delwedd a 50% oddi ar aelodaeth Cymdeithas Eryri. Mae gennym wobrau hael gan ein haelodau Busnes ar gyfer y wobr gyntaf, ail a thrydydd (i’w gadarnhau).

Gwahoddir ymgeiswyr i anfon un ffotograff sydd, yn eu tyb nhw, yn cyfleu Eryri orau. Cwblhewch y ffurflen isod erbyn 12 o’r gloch bore 26 Mehefin 2023. Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023. Gweler telerau ac amodau’r cystadleuaeth YMA

I GYSTADLU CWBLHEWCH Y FFURFLEN ISOD:

Create your own user feedback survey

Comments are closed.