Dathlwch Eryri y Nadolig hwn

… drwy anfon cardiau Nadolig Cymdeithas Eryri

Mae cardiau Nadolig Cymdeithas Eryri, yn dangos tirluniau Eryri gan Steve Lewis a Tŷ Hyll yn y gaeaf gan Peter Ogwen Jones. £2.75 fesul pecyn o 5.

A beth am amgáu anrheg fach, sef pecyn o ‘Hadau er lles Gwenyn‘? Mae na ddewis eang o flodau gwyllt brodorol ac amrywiadau gardd, wedi eu dewis yn arbennig i ddenu gwenyn mêl a pheillwyr eraill i’ch gardd. Mae’r hadau wedi eu casglu a phacio â llaw gan wirfoddolwyr Tŷ Hyll.

Pob elw at ein gwaith o warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac at ein gwaith yn Tŷ Hyll, yn y drefn honno.

Comments are closed.