Mae draig euraidd odidog yn byw dan fynydd hynafol Caergybi, mewn ogof ddirgel ryfeddol a warchodir gan hud y Derwyddon…
Dewch i’r Tŷ Hyll llawn awyrgylch i glywed am anturiaethau Alfie a’i gyfarfyddiadau â draig. Bydd Tony Roberts, awdur ‘Alfie a’r Ddraig’, yn adrodd y stori hyfryd hon ger yr aelwyd yn Tŷ Hyll.
Yna, caiff y plant gyfle i ddefnyddio eu dychymyg eu hunain: byddwn yn mynd allan i gasglu deunyddiau i wneud collages deiliog o ddreigiau.
Bydd angen i riant neu warcheidwad aros gyda’u plentyn.
Rhaid archebu lle. Gwahoddir rhoddion.
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498