Taith gerdded hawdd: Blodau’r Gwanwyn yn Nhŷ Hyll

Fel rhan o’n dathliadau Hanner Canmlwyddiant am 2017, rydym wedi ymuno â Gwyl Gerdded Trefriw i trefnu taith gerdded hamddenol yng ngardd Tŷ Hyll ar gyfer aelodau o’r Gymeithas a’r cyhoedd.

Mae gardd bywyd gwyllt a choetir Tŷ Hyll yn cynnwys planhigion a ddewiswyd yn ofalus i ddenu adar a peillwyr (pollinators). Cânt eu rheoli’n annwyl ac yn organig gan wirfoddolwyr ymroddedig. Mae beinciau yn caniatáu i chi fwynhau blodau’r ardd a natur y coetir: gall gweld golygfeydd o Foel Siabod; anadlu awyr ffres Eryri; gwrando ar gân yr adar a siffrwd mamaliaid bychan, neu yn syml mwynhau blodau’r gwanwyn o’ch cwmpas. Ymunwch â Margaret, un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas, am bnawn o grwydro gwanwyn trwy’r gerddi godidog.  

Hyd: Tua 3 awr, gan gynnwys amser rhydd i fwynhau’r ardd, neu i brynu te a chacen*!
*Mae aelodau o Gymdeithas Eryri yn mwynhau gostungiad o 20% yn y caffi.
Pellter: 1.5 km / 1 filltir
Gradd: Hawdd
Cyfarfod: 1.15 y.p. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i ddal bws mini i Dŷ Hyll ac yn ôl.

Mae’r ddigwyddiad yma yn rhan o Ŵyl Gerdded Trefriw. I archebu lle ar y daith gerdded hon, trowch at wefan yr Ŵyl wrth CLICIO YMA.

Edrychwm ymlaen at eich gweld yno!