Brwydro Jac y Neidiwr
Archebu lle yn hanfodol, Cludiant o Bangor a Chaernarfon am ddim
Mae’r tymor tynnu Jac y Neidiwr wedi cychwyn! Mae Jac y Neidiwr yn blanhigyn ymledol, estron. Bydd clystyrau trwchus ohono yn mygu planhigion eraill, gan wthio allan y cymunedau o blanhigion cynhenid, and phan fydd yn cilio yn y gaeaf, bydd yn gadael glannau afonydd gwag sy’n fwy tebygol o gael eu herydu. Mae Jac y Neidiwr hefyd yn cynhyrchu symiau sylweddol o neithdar sy’n denu pryfed peillio oddi wrth blanhigion cynhenid.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498