Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa

Casglu Sbwriel ar yr Wyddfa

Archebu lle yn hanfodol,

Yn ystod y diwrnod gwaith hwn, byddwn yn cydweithio â Thîm Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri i wneud arolwg o’r sbwriel ar y Mynydd. Gan ddefnyddio teclynnau cofnodi data GPS, bydd yr wybodaeth a gesglir gennym ar y diwrnod yn cael ei mapio a bydd unrhyw un yn gallu ei defnyddio. Bydd yr wybodaeth a gesglir gennym ar y diwrnod yn helpu i addysgu pobl am y broblem sbwriel ar yr Wyddfa a’r cyffiniau, a bydd hefyd yn gyfeirbwynt ar gyfer arolygon o sbwriel yn y dyfodol.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498