Casglu Sbwriel, Dyffryn Ogwen
Archebu lle yn hanfodol,
Mae sbwriel yn un o sgil effeithiau anffodus bod yn ardal boblogaidd o fewn Parc Cenedlaethol. Dyffryn Ogwen yw un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Eryri, felly mae sbwriel wedi dod yn broblem fawr yn yr ardal. Byddwn yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dacluso rhan o’r dyffryn yn drwyadl. Dewch i’n helpu i glirio’r llanast a gwella ymwybyddiaeth er mwyn lleihau lefelau sbwriel yn y dyfodol.
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498