Gweithdy Torch y Nadolig yn Nhŷ Hyll

Gweithdy Torch y Nadolig yn Nhŷ Hyll

5-8yp. Tŷ Hyll, Betws-y-coed

Ymunwch â ni am noson clud wrth y tân i wella eich medrau adnabod planhigion tymhorol wrth ddysgu sut i greu torch ar gyfer eich cartref y Nadolig hwn. Bydd lluniaeth a mins peis cartref.

Rhaid archebu lle:
claire@snowdonia-society.org.uk | 01286 685498


Rhowch yn hael os gwelwch yn dda

Yn hytrach na phenodi pris am y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd tuag at waith Cymdeithas Eryri.