Codi Waliau Cerrig Sychion

Adeiladu Waliau Sychion

Codi Waliau Cerrig Sychion

Archebu lle yn hanfodol, Mae 5 lle ar gael i wirfoddolwyr. Bydd angen gwisgo esgidiau diogelwch â blaenau dur (casgliad bychan ar gael i’w benthyg)

Gellir gweld y grefft o godi waliau sychion ym mhob cwr o Barc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa sgiliau sydd eu hangen i godi wal sych sy’n nodweddiadol o arddull y rhanbarth. Ymunwch â ni a dysgwch yr elfennau trwy helpu i godi un o’r adeileddau hardd hyn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond os oes gennych brofiad, bydd yn gyfle gwych i ymarfer eich sgiliau codi waliau sychion a rhannu’r profiad hwnnw.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498