Dewch i ddysgu sut i adnabod coed conwydd trwy gyfranogi yn y cwrs undydd hwn yng nghwmni ecolegydd. Byddwn yn edrych ar 7 teulu o goed conwydd ac yn dysgu am eu nodweddion. Erbyn diwedd y diwrnod, byddwch yn gwybod yn glir beth yw’r gwahaniaeth rhwng ffynidwydd Douglas a chypreswydd Lawson! Addas i ddechreuwyr llwyr.
Mae yna £10 o daliad ar gyfer gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri a fydd yn cael ei rhoi nol ar y diwrnod.
**Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon**
Archebu lle yn hanfodol
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498