Cwis Mawr Eryri

Cwis Mawr Eryri

8pm, Caffi Siabod, Capel Curig.

Pa mor dda ydych chi’n adnabod Eryri, ei mynyddoedd, ei hanes a’i phobl? Beth am brofi eich gwybodaeth a chefnogi Eryri trwy gyfranogi yng Nghwis Mawr Eryri y mis Mawrth hwn?  Trefnwch dîm ac ymunwch â’r cwistfeistres, Sarah McCarthy, sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr y Gymdeithas, yn llecyn cyfforddus Caffi Siabod, i fwynhau un o’r ychydig nosweithiau cwis sydd wedi’i drefnu’n benodol i godi arian i helpu i warchod y Parc Cenedlaethol.

Gwobr hael

Bydd y tîm llwyddiannus yn ennill bocs o 12 botel o gwrw Bragdy Conwy!

Dangosir ffilm fer yn ystod yr egwyl am blanhigion alpaidd yr Arctig yn Eryri, a gallai hynny eich helpu i ennill! Croeso i bawb, peidiwch â methu’r cyfle i gyfranogi.

Gellir archebu bwyd poeth yn y caffi hyd at 7yh. Bydd y cwis yn cychwyn am 8yh.

Am ymholiadau cysylltwch â Claire :
 claire@snowdonia-society.org.uk

 01286 685498


Rhoddion hael os gwelwch yn dda

Rhowch yn hael os gwelwch yn dda; bydd pob ennill yn mynd i mewn i waith Cymdeithas Eryri i warchod a wella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri.