Cynnal Llwybrau Troed mewn Coetir
Archebu lle yn hanfodol
Mae Parc Mawr yn goetir gwych sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Coedlannau, gerllaw pentref Henryd. Mae’r Ymddiriedolaeth Coedlannau wedi gofyn i ni gynorthwyo i gynnal y llwybrau a’r mynediad i’r coetir hwn fel gall pobl fwynhau’r llecyn hardd hwn yn ddidrafferth. Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn cynnwys atgyweirio pompren ac adnewyddu camre’r llwybr troed. Dewch draw i ddysgu rhywfaint o sgiliau newydd!
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498