Taith gerdded dywys: Hanes Dyffryn Nantlle

Dan arweiniad Rhys Mwyn, 18 Mehefin

Dewch efo ni ar daith gerdded yn Nyffryn Nantlle gyda archeolegydd lleol Rhys Mwyn, gan ymweld â Chaer Engan a chwarel llechi Dorothea.

Hyd: 9:30am – tua 2:30pm
Man cyfarfod: Neuadd Goffa Penygroes
Dewch â chi: Bocs bwyd, diod, cot a throwsus law a sgidiau cryf.

Archebu lle yn hanfodol:

 claire@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Rydym yn cadw’r hawl i droi pobl i ffwrdd nad ydynt wedi archebu lle.

Rhowch yn hael

Yn hytrach na phenodi pris am y digwyddiad hwn, rydym yn gwahodd cyfraniadau. Cofiwch roi’n hael; bydd eich arian yn mynd at waith Cymdeithas Eryri.