Ffensio yng Nghors Bodgynydd

Byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt er budd y gwlypdir hardd hwn yng nghanol Coedwig Gwydyr.  Mae angen atgyweirio rhannau o ffens y safle cyn gall y gwartheg Ucheldir yr Alban sy’n ei bori ddychwelyd.  Dewch i ddysgu sut i ffensio ac am bori gwlypdiroedd at ddibenion cadwraeth gan warden y safle.

Cludiant am ddim o Fangor a Chaernarfon
 tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498