Glanhau Traethau Prydain Fawr
Archebu lle yn hanfodol
Unwaith yn rhagor, byddwn yn cydweithio â’r Gymdeithas Cadwraeth forol i glirio sbwriel o Draeth Harlech. Bydd y diwrnod gwaith hwn yn rhan o Benwythnos ‘ Great British Beach Clean’ y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Yn ogystal â chlirio’r sbwriel, byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith arolygu y gwnaethom gychwyn arno yn ystod ei hymweliad olaf, er mwyn cofnodi’r math o sbwriel a ganfyddir ar y traeth.
CLUDIANT AM DDIM o Fangor, Caernarfon a Phorthmadog
Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498