A wyddoch chi’r gwahaniaeth rhwng bedw a gwern a rhwng drain gwynion a drain duon? Dysgwch sut i adnabod ein coed cynhenid yng nghwmni’r ecolegydd Sam Thomas. Bydd hwn yn weithdy bore rhagarweiniol – dim angen gwybodaeth flaenorol. Bydd Sam yn eich tywys trwy’r nodweddion mae angen i chi chwilio amdanynt wrth ddysgu sut i adnabod coed.
Os hoffech chi fynd â’ch sgiliau adnabod i’r lefel nesaf, archebwch le ar ein cwrs adnabod coed yn ystod y gaeaf ym mis Rhagfyr.
Bydd cludiant am ddim o Fangor ar gael.
Mae yna £10 o daliad ar gyfer gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri a fydd yn cael ei rhoi nol ar y diwrnod.
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498