Noson Astudio Gwyfynnod

Noson Astudio Gwyfynnod

Archebu lle yn hanfodol, Digwyddiad gyda’r hwyr. Cludiant ar gael yn rhad ac am ddim o Fangor a Chaernarfon.

Ymunwch â ni am y noson wrth i ni astudio Gwyfynnodd Tŷ Hyll.  Dyma gyfle gwych i chi ddysgu am y creaduriaid hynod ddiddorol hyn a’u cofnodi.  Arweinir y noson gan Julian Thompson, Cofnodwr Is-Sir Fiolegol Sir Gaernarfon, o Ganolfan Cadwraeth Pensychnant.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498