Plannu Coed

Plannu Coed

Archebu lle yn hanfodol,

Byddwn yn ymuno ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i blannu coed am fis.  Bob dydd Iau yn ystod Chwefror, byddwn yn cynyddu’r gorchudd coed llydanddail yn Eryri.  Treulir llawer o’n blwyddyn yn clirio pethau o’r Parc Cenedlaethol, e.e. rhywogaethau ymledol megis Rhododendron a Ffromlys Chwarennog, felly mae’n hen bryd i ni ychwanegu rhywbeth ato. Ymunwch â ni a chyfranogwch, dewch i leihau eich ôl troed carbon a chreu atgof a wnaiff barhau am flynyddoedd lawer

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498