Gwellwch eich sgiliau adnabod pryfed cop
Cyfle perffaith i wella eich sgiliau adnabod pryfed cop neu hyd oed ceisio trechu’r arswyd byddant yn gwneud i chi ei deimlo!
Ymunwch â Richard Gallon, arbenigwr ar gofnodi pryfed cop, ar ‘Saffari Pryfed Cop’ o amgylch coetir Tŷ Hyll. Bydd gwaith maes ymarferol yn y bore a bydd Richard yn dangos sut i ddal pryfed cop. Yn ystod y sesiwn labordy yn y prynhawn, bydd Richard yn egluro rhywfaint o hanes naturiol y creaduriaid camddealledig hyn, a’r nodweddion allweddol y dylech chwilio amdanynt wrth geisio eu hadnabod!
Yn addas i blant ac oedolion. Dewch â dillad ac esgidiau addas yn ogystal â lluniaeth.
Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael felly rhaid archebu ymlaen llaw.. Nifer cyfyngedig o lefydd parcio yn Tŷ Hyll.
I gael rhagor o wybodaeth neu i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch â Bethan:
bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498