Fel rhan o’n dathliadau Hanner Canmwlyddiant am 2017, rydym wedi yumno â’r Ŵyl Gerdded Trefriw am daith gerdded uchel i aelodau Cymdeithas Eryri a’r cyhoedd.
Bydd y daith gerdded mynydd heriol hon, o’r enw Pedol Eigiau, yn cychwyn a gorffen yn y maes parcio yng Nghwm Eigiau (bydd bws mini yn mynd â chi yno). Byddwch yn cerdded i gopâu Foel Grach a Charnedd Llewelyn (dros 3000′), a hefyd i gopaon Pen Yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach.
Dydy’r llwybr hwn ddim yn dilyn llwybrau amlwg bob tro. Sylwer hefyd bod ‘na rannau sydd yn agored, ac mewn amryw lefydd bydd rhaid defnyddio dwylo. Bydd ‘na cyfanswm o ryw 3500′ (1100m) o esgyniad, felly dylai fod ‘na olygfeydd gwych os bydd y cymylau yn aros yn uchel; ond sylwer bod hi’n debyg ceith y llwybr ei newid/fyrhau os na fydd y tywydd yn ffafriol.
Gwnewch yn siwr bod gynnoch chi ddillad addas, h.y. dillad gwrth-ddŵr / gwrth-wynt, dillad cynnes, ac esgidiau cerdded da.
Hyd: Trwy’r dydd – 8 awr. Dewch â bocs bwyd.
Pellter: 15 km / 10 milltir
Gradd: Taith Fynydd Galed
Cyfaddasrwydd: Cerddwyr profiadol a heini
Cyfarfod: 8.45 y.b. yn Neuadd Bentref Trefriw (LL27 0JH, SH781631) i gael cludiant i fan cychwyn y daith
Mae’r ddigwyddiad yma yn rhan o Ŵyl Gerdded Trefriw. I archebu lle ar y daith gerdded hon, trowch at wefan yr Ŵyl wrth CLICIO YMA.
Edrychwm ymlaen at eich gweld yno!