Ymunwch â ni ar daith gerdded liw nos yng nghwmni arbenigwr lleol ar ystlumod. Diolch i gymorth dyfeisiau canfod ystlumod (sy’n troi cri anghlywadwy arferol yr ystlumod yn seinamleddau y gall pobl eu clywed), byddwn yn gallu clywed a gweld ystlumod yn y coetir ac ar lan yr afon. Bydd y digwyddiad hwn yn gorffen yn weddol hwyr, felly efallai na fydd yn addas i blant ifanc.
Archebu lle yn hanfodol
tamsin@snowdonia-society.org.uk
01286 685498