Yng ngwobrau ‘Countryfile Magazine Landmark of the Year’
Y rhaeadr “mwyaf hudol” â rhinweddau “anamnewidiadwy”, oedd disgrifiad y Fonesig Fiona Reynolds pan enwebodd Rhaeadr y Graig Lwyd yn ei rhestr fer am Landmark of the Year.
Mae’r pleidleisio wedi ei gwblhau a Rhaeadr y Graig Lwyd yw’r enillydd!
Cafwyd tystiolaeth o bwysigrwydd a phoblogrwydd y safle hwn yn ystod yr ymdrech enfawr gan aelodau Cymdeithas Eryri, y gymuned leol a grwpiau eraill, pan gafodd ei fygwth gan gynllun hydro-electrig. Erbyn hyn, mae’r cynllun wedi cael ei dynnu’n ôl.
Os ydych yn caru lleoedd gwyllt a thirluniau golygfaol Eryri, beth am gefnogi ein gwaith drwy ymaelodi â Chymdeithas Eryri neu cyfrannu?
Cyfrannwch at ein Cronfa Ddyfodol 50 Mlynedd
Y Fonesig Fiona Reynolds yn siarad yn CCB y Gymdeithas
Bydd y Fonesig Fiona yn siarad yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 14 Hydref. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth cyn bo hir.
–