Diwrnodau Gwaith Gwirfoddol Mis Awst 2016

Diwrnodau Gwaith Gwirfoddol Mis Awst 2016

Archebu lle yn hanfodol

Dyma ein diwrnodau gwaith gwirfoddol a gynhelir ym mis Awst 2016. Edrychaf ymlaen i weld chi allan gyda ni.

3/8, Cynnal Llwybrau Troed yr Wyddfa: Dewch i’n helpu ni i gynnal a chadw rhai o lwybrau troed mwyaf poblogaidd y wlad. Mae ar lwybrau troed Eryri angen gwaith cynnal a chadw cyson oherwydd bydd 600,000 o bobl yn troedio arnynt bob blwyddyn. Os ydych chi’n hoffi cerdded yn y mynyddoedd a defnyddio’r llwybrau troed hyn eich hun, dyma’r diwrnod gwirfoddoli delfrydol i chi.

6/8 Sgwrs ynghylch Rhywogaethau Ymledol, Plas Tan y Bwlch: Mae rhywogaethau ymledol yn broblem enfawr yng Nghymru, yn enwedig yn ein Parciau Cenedlaethol. Beth sy’n digwydd i ddatrys hyn a sut mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth? Dewch draw i ganfod yr atebion i’r cwestiynau hyn a holi eich cwestiynau eich hun. Bydd swyddogion o Barc Cenedlaethol Eryri, Dee Invasives a Plant Life yn ymuno â ni. Bydd pob un yn cynnig ei ddehongliad o’r materion cyfredol yn ymwneud â rhywogaethau ymledol. Taith gerdded ddewisol ar ôl cinio i ymweld â choetir Plas Tan y Bwlch a dysgu am y gwaith sy’n digwydd mewn perthynas â rhywogaethau ymledol. *Cludiant am ddim o Bangor a Chaernarfon

10/8 Casglu Sbwriel, Dyffryn Ogwen: Mae sbwriel yn un o sgil effeithiau anffodus bod yn ardal boblogaidd o fewn Parc Cenedlaethol. Dyffryn Ogwen yw un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Eryri, felly mae sbwriel wedi dod yn broblem fawr yn yr ardal. Byddwn yn cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i dacluso rhan o’r dyffryn yn drwyadl. Dewch i’n helpu i glirio’r llanast a gwella ymwybyddiaeth er mwyn lleihau lefelau sbwriel yn y dyfodol. *Cludiant am ddim o Bangor a Chaernarfon

13/8 Cwrs Adnabod Blodau Gwyllt, Treborth: A ydych chi erioed wedi dymuno adnabod y blodau byddwch yn eu gweld yn ein cefn gwlad hardd? Os ydych chi, mae hwn yn gwrs delfrydol i chi. Dewch i ddysgu am gymhlethdod adnabod fflora a chael rhywfaint o gynghorion ynghylch sut i wella eich gwybodaeth. Mae’r ardd fotaneg yn Nhreborth yn lleoliad delfrydol ac yn freuddwyd i fotanegwyr. Erbyn i chi orffen y cwrs rhagorol hwn, bydd gennych chi awydd i gribinio cefn gwlad i ganfod ein blodau gwyllt anhygoel.

16/8 Casglu Sbwriel, Yr Wyddfa: Byddwn yn cydweithio â Thîm Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri i wneud arolwg o’r sbwriel ar y Mynydd. Gan ddefnyddio teclynnau cofnodi data GPS, bydd yr wybodaeth a gesglir gennym ar y diwrnod yn cael ei mapio a bydd unrhyw un yn gallu ei defnyddio. Bydd yr wybodaeth a gesglir gennym ar y diwrnod yn helpu i addysgu pobl am y broblem sbwriel ar yr Wyddfa a’r cyffiniau, a bydd hefyd yn gyfeirbwynt ar gyfer arolygon o sbwriel yn y dyfodol.

20/8 Pladuro a Rheoli Cynefinoedd, Pensychnant: Mae Canolfan Cadwraeth Pensychnant yn ffynhonnell wych o wybodaeth ac yn ddelfrydol i gadwraethwyr. Dewch i roi help llaw i’r ganolfan i gynnal ei chors a dysgwch yr hen grefft o bladuro. Bydd y gwaith cynnal a chadw a wneir gennym ar y diwrnod yn annog parhad tyfiant sawl blodyn hardd yn cynnwys tegeirian brith y rhos. *Cludiant am ddim o Bangor a Chaernarfon

23/8 + 26/8 Gwneud Golosg, Abergwyngregyn: Bob blwyddyn, bydd y tîm rheoli yn Abergwyngregyn yn prysgoedio’r coetir gwern fel rhan o system gylchdro 10 mlynedd. Mae’r dechneg rheoli coetiroedd hon yn golygu y gall y coetir gwern barhau i ffynnu yn yr ardal. Canlyniad y prysgoedio yw cyflenwad da o goed gwern a ddefnyddir i greu golosg yn y fan a’r lle. Dewch i ddysgu sut i greu golosg o ddechrau’r broses i’w diwedd gan ddefnyddio’r gwern a dorrwyd gan ein gwirfoddolwyr yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’n broses gweddol araf, a dyna pam bydd hwn yn ddigwyddiad dau ddiwrnod ar 23/8 a 26/8. Nid yw’n ofynnol i chi fynychu ar y ddau ddiwrnod, ond byddai hynny’n well.

30/8 Codi Waliau Sychion, Dyffryn Ogwen: Gellir gweld y grefft o godi waliau sychion ym mhob cwr o Barc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa sgiliau sydd eu hangen i godi wal sych sy’n nodweddiadol o arddull y rhanbarth. Ymunwch â ni a dysgwch yr elfennau trwy helpu i godi un o’r adeileddau hardd hyn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond os oes gennych brofiad, bydd yn gyfle gwych i ymarfer eich sgiliau codi waliau sychion a rhannu’r profiad hwnnw.

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, bob Dydd Llun: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.