Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Ionawr

Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Ionawr

Blwyddyn Newydd Dda!

Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu am ein diwrnodau gwaith gwirfoddol a gynhelir ym mis Ionawr 2016.

6/1, 16/1 Rheoli Rhododendron Melyn – Plas Tan y Bwlch: Mae newidiadau sylweddol yn digwydd yng ngerddi hardd Plas Tan y Bwlch. Mae clirio rhywogaethau ymwthiol estron yn un o’r rhain. Mae’r Rhododendron Melyn neu Rhododendron Luteum yn blanhigyn collddail sy’n wreiddiol o Dde-ddwyrain Ewrop a Gorllewin Asia. Trwy glirio’r rhywogaeth estron hon, bydd gan y gerddi fwy o le i dyfu, a bydd hynny’n hwb i’n planhigion cynhenid. 16/1 – CLUDIANT AM DDIM O GYFFORDD BANGOR A CHAERNARFON.

8/1 Sgwrs ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt Eryri – Tŷ Hyll: Dechreuwch eich blwyddyn gyda Chymdeithas Eryri drwy ymuno â ni yn Nhŷ Hyll ar gyfer sgwrs ysbrydoledig am harddwch Eryri . Mi fydd Gary Jones, ffotograffydd bywyd gwyllt proffesiynol o Ogledd Cymru , yn rhoi cipolwg i sut beth yw byw bywyd fel ffotograffydd bywyd gwyllt, gan roi ychydig o awgrymiadau i ddeuchreuwyr, beth sy’n ei ysbrydoli êf ac mi fydd yn rhoi arddangosfa hardd o’i waith. Mae lle’n brin yn Nhŷ Hyll felly mae archebu lle o flaen llaw yn hanfodol , os hoffech chi ddod draw , cysylltwch â ni!

15/1 Prysgoedio Gwern – Abergwyngregyn: Rydym yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr Gwarchodfa Abergwyngregyn i brysgoedio’r goedlan Gwern yn Abergwyngregyn. Rhennir y goedlan Gwern yn sawl rhan, a chânt eu cylchdroi trwy raglen prysgoedio sy’n para 10 mlynedd. Diben prysgoedio’r Gwern yw hybu twf newydd yn y coetir ac felly helpu i warchod y Gwern sy’n tyfu yno. Yn y gorffennol, defnyddiwyd y Gwern gan wneuthurwyr clocsiau a arferai deithio i Abergwyngregyn i gasglu’r Gwern i wneud gwadnau eu clocsiau. Roedd y ffaith fod Gwern yn wydn yn golygu ei fod yn bren perffaith i’w ddefnyddio, yn enwedig o dan amgylchiadau gwlyb. Er bod y gwneuthurwyr clogsiau wedi hen ddiflannu, mae’r Gwern yn dal yno, felly dewch i’n helpu i’w gwarchod.

23/1 Y Dref Werdd Rhododendron – Blaenau Ffestiniog: Rydym yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth â Thref Werdd Blaenau Ffestiniog, wrth i ni gydweithio yn erbyn y Rhododendron grymus. Mae Rhododendron Ponticum yn un o’r tair prif rywogaeth ymledol yng Nghymru ac mae’n hawdd gweld y difrod a wnaed ganddo i’n cefn gwlad cynhenid. Mae Blaenau Ffestiniog yn un o’r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf, a dyna pam mae’r Dref Werdd wedi penderfynu cymryd camau uniongyrchol i daclo’r broblem. Mae’r Dref Werdd yn brosiect amgylcheddol cymunedol a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr ac mae’n gweithio gyda’r gymuned leol ar nifer o brosiectau. Dyma gyfle gwych i gydweithio â phobl o’r un anian ac i ehangu lleoliadau ein rhaglen diwrnodau gwaith gwirfoddol i ardaloedd newydd. 23/1 – CLUDIANT AM DDIM O GYFFORDD BANGOR A CHAERNARFON.

26/1 Diwrnod Gwaith yng Nghoetir Tŷ Hyll – Mae’r gwaith o gynnal a chadw ein coetir ysblennydd yn dibynnu ar haelioni ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr ymroddedig. Pa un ai a hoffech helpu â’n harolwg o adar neu rywbeth mwy corfforol fel cynnal llwybrau troed, ymunwch â ni i fynd i’r afael â thasgau’r mis hwn yn y coetir!

28/1 Diwrnod Gwaith Cwm Mynach – Dolgellau: Mae Cwm Mynach yn ddyffryn cudd yn swatio ar lethrau’r mynyddoedd Rhinog. Ar ȏl yr Ail Rhyfel Byd, cafwyd llawer o’r tir ei blannu gyda coed conwydd masnachol ond ers 2010, mae Coed Cadw wedi bod yn gweithio i adfer y coedtir mil erw yn goetir llydanddail brodorol. Ym mis Chwefror 2014, achoswyd gwyntoedd a rym corwynt, ddifrod sylweddol mewn rhai rhannau o’r cnwd Sbriws Sitca, gan gynnwys rhannau o’r safle coetir hynafol. Unwaith y bydd y coed a syrthwyd wedi eu glirio, mae angen i ni ail sefydlu canopi llydanddail cyn gyted a phosib er mwyn sicrhau gweddillion y coetir hynafol a gwella cysylltedd cynefinoedd ar hyd ymyl yr afon. 28/1 – CLUDIANT AM DDIM O FANGOR A CHAERNARFON.

29/1 Clirio Conwydd – Abergwyngregyn: Rydym yn cydweithio unwaith eto â Chyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr Gwarchodfa Abergwyngregyn i glirio adfywiad coed Conwydd oddi ar lethrau ogleddol yr warchodfa. Mae rheoli adfywiad y coed Conwydd yn bwysig er mwyn cadw ein coetir llydanddail brodorol yn yr ardal. Os ydych yn hoffi ein coetir brodorol, yna dewch i warchod nhw.

31/1 Gwyl Adar Gerddi – Ty Hyll: Diwrnod o hwyl, rhad ac am ddim, allan i deuluoedd. Mae Cymdeithas Eryri a’r RSPB angen eich cymorth chi er mwyn cwblhau’r Gwyl Adar Gerddi 2016 yn Nhy Hyll. Mae hwn yn gyfle gwych i chi i’n helpu ni gyda’n cofnodion rhywogaethau a dysgu am yr adar y byddwch yn dod o hyd i yn eich gardd eich hun. Mae’r gweithgareddau’n addas ar gyfer pob oed, p’un a ydych yn newydd i wylio adar neu’n brofiadol. “Pob flwyddyn, i fyny ac i lawr y wlad, mae teuluoedd yn gwylio adar yn eu gerddi ac yn adrodd yr hyn a welant. Dewch i ymuno a ni i gyd eleni.” RSPB. Bydd y bore yn cynnwys yr 1 awr Arolwg Gwylio Adar yn ogystal a gweithgareddau hwyliog e.e. dysgu sut i adeiladu eich bwydwr adar eich hun.

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, bob dydd Llun: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.