Diwrnodau gwaith a hyfforddiant gwirfoddolwyr mis medi

Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Medi

Helo bawb,
Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu am ein diwrnodau gwaith gwirfoddol a gynhelir ym mis Medi 2015.

1/9, 2/9, 3/9 Golosg a Llwybrau Troed – Abergwyngregyn: Dysgwch sgil newydd. Rydym yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i gynnig cyfle i ddysgu’r sgil o wneud golosg. Yn ystod y 3 diwrnod, byddwn yn dysgu sut cynhyrchir golosg o’r brigyn i’r bag. Tra byddwn yn disgwyl i’r broses gwblhau, byddwn yn cael cyfle i helpu i gynnal y llwybrau troed gerllaw yn y llecyn hyfryd hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae croeso i wirfoddolwyr ymuno â ni am 1, 2 neu 3 diwrnod.

5/9, 6/9 Cwrs Cadw Gwenyn i Ddechreuwyr – 3 Pen-Y-Bonc, Bangor: Ymunwch â ni i gymryd rhan mewn Cwrs Cadw Gwenyn dau ddiwrnod sydd wedi’i anelu at bobl sydd â diddordeb mewn cychwyn cadw gwenyn neu sy’n dymuno dysgu rhagor am wenyn. Arweinir y cwrs gan wenynwr hynod brofiadol, a bydd yn trafod cefndir cadw gwenyn, ystyried elfennau cadw gwenyn, adeiladu a lleoli cychod gwenyn, rheoli gwenyn, lle gallwch gael gwenyn ac offer cadw gwenyn a phwysigrwydd gwenyn yn yr amgylchedd. Dilynir hyn gan sesiwn ymarferol gyda’r gwenyn yn ystod y prynhawn. Bydd arnoch angen beiro, llyfr nodiadau, menig tebyg i rai golchi llestri, esgidiau addas (bydd welingtons yn ddelfrydol) a lluniaeth. Bydd y cwrs yn rhad ac am ddim i Wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri.

7/9 Arolwg OPAL o Iechyd Coed– Tŷ Hyll: Mae coed yn hanfodol – maent yn denu natur i ardaloedd trefol, cefnogi’r economi wledig, darparu bwyd a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt a helpu i frwydro’r newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae nifer y plâu a’r clefydau wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae ein coed o dan fygythiad. Os oes gennych ddiddordeb mewn monitro iechyd coed, beth am ddod i Dŷ Hyll i ymuno â Bob Griffiths o’r Labordai Awyr Agored a chymryd rhan yn Arolwg OPAL o Iechyd Coed! Mae’n gyfle perffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rheoli coed. Dewch ag esgidiau cerdded cryfion a digon o luniaeth! Croeso i bawb!

8/9 Casglu Sbwriel o Amgylch Llyn Ogwen: Y llecyn o amgylch Llyn Ogwen yw un o rannau prysuraf Parc Cenedlaethol Eryri. Yn anffodus, mae hyn yn golygu fod angen rheoli’r sbwriel a wasgarir yn y llecyn hwn. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i leihau cyfanswm y sbwriel yn y llecyn hwn a chodi ymwybyddiaeth o sbwriel trwy osod esiampl. Byddwch yn barod i gasglu!

9/9 Pladuro – Pensychnant: Dewch i’n helpu i gynnal Cors Pensychnant a dysgu’r hen grefft o bladuro. Mae’r llecyn hwn wedi cael ei weddnewid o ffen helyg a mieri yn gorstir blodeuog â Gold y Gors a Charpiog y Gors. Mae eich help yn hanfodol er mwyn cynnal y gweddnewidiad hwn.

15/9 Codi Waliau Sychion – Pensychnant: Gellir gweld y grefft o godi waliau sychion ym mhob cwr o Barc Cenedlaethol Eryri. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod pa sgiliau sydd eu hangen i godi wal sych sy’n nodweddiadol o arddull y rhanbarth. Ymunwch â ni a dysgwch yr elfennau trwy helpu i godi un o’r adeileddau hardd hyn. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond os oes gennych brofiad, bydd yn gyfle gwych i ymarfer eich sgiliau codi waliau sychion a rhannu’r profiad hwnnw.
Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael.
19/9 Great British Beach Clean – Harlech: Unwaith yn rhagor, byddwn yn cydweithio â’r Gymdeithas Cadwraeth forol i glirio sbwriel o Draeth Harlech. Bydd y diwrnod gwaith hwn yn rhan o Benwythnos ‘ Great British Beach Clean’ y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Yn ogystal â chlirio’r sbwriel, byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith arolygu y gwnaethom gychwyn arno yn ystod ei hymweliad olaf, er mwyn cofnodi’r math o sbwriel a ganfyddir ar y traeth.

29/9 Diwrnod Gwaith yn y Coetir – Tŷ Hyll: Mae’r gwaith o gynnal a chadw ein coetir ysblennydd yn dibynnu ar haelioni ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr ymroddedig. Pa un ai a hoffech helpu â’n harolwg o adar neu rywbeth mwy corfforol fel cynnal llwybrau troed, ymunwch â ni i fynd i’r afael â thasgau’r mis hwn yn y coetir!

Croesawir gwirfoddolwyr newydd a phresennol. Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio ar gael yn Tŷ Hyll.

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, bob dydd Llun: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll.

Cysylltwch ag Owain neu Bethan (Diwrnodau yn Nhŷ Hyll a Bangor) i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
bethan@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.