Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Rhagfyr

Adeiladu Waliau Sychion

Diwrnodau Gwaith Gwirfoddolwyr Mis Rhagfyr

 

3/12, Clirio Rhododendron – Nant Gwynant: Nid yw Rhododendron yn rhywogaeth gynhenid i Gymru. Mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Eryri ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rydym wedi bod yn clirio Rhododendron o Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant fel rhan o’r prosiect clirio Rhododendron yn Nant Gwynant a Beddgelert. Ein nod yw clirio’r rhywogaeth ymledol hon o’r dyffryn. Dewch i’n helpu i barhau â’r frwydr yn erbyn Rhododendron.

5/12, Casglu Sbwriel a Chynnal a Chadw Llwybr – Lon Gwyrfai: Fel rhan o gytundeb rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Eryri, byddwn yn gwneud rhannau o’r gwaith cynnal a chadw ar y llwybr amlbwrpas cysylltiedig hwn, y gall beicwyr a cherddwyr ei ddefnyddio i fynd o Ryd Ddu i Feddgelert ar hyd dyffryn hardd Rhyd Ddu. Diben gwaith y diwrnod yw clirio/agor y traeniau a’r ceuffosydd, lle mae angen gwneud hynny, ar hyd darn dwy filltir o Lon Gwyrfai. Byddwn hefyd yn casglu ac yn cofnodi unrhyw sbwriel a welwn.

CLUDIANT AM DDIM O GYFFORDD BANGOR A CHAERNARFON.

7/12 Ystlumod Eryri: Ymunwch â Chymdeithas Eryri yng Ngerddi Botaneg Treborth ar 7 Rhagfyr lle bydd Sam Dyer, arbenigwr ar ystlumod lleol, yn rhoi cyflwyniad i ni i ystlumod Eryri, ymdrechion i’w gwarchod a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu.  Mae Sam yn siaradwr gwych ac mae’n hynod wybodus am bopeth i’w wneud ag ystlumod.  Peidiwch â methu’r digwyddiad hwn!

8/12 Y Dref Werdd Rhododendron – Blaenau Ffestiniog: Rydym yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth â Thref Werdd Blaenau Ffestiniog, wrth i ni gydweithio yn erbyn y Rhododendron grymus. Mae Rhododendron Ponticum yn un o’r tair prif rywogaeth ymledol yng Nghymru ac mae’n hawdd gweld y difrod a wnaed ganddo i’n cefn gwlad cynhenid. Mae Blaenau Ffestiniog yn un o’r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf, a dyna pam mae’r Dref Werdd wedi penderfynu cymryd camau uniongyrchol i daclo’r broblem. Mae’r Dref Werdd yn brosiect amgylcheddol cymunedol a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr ac mae’n gweithio gyda’r gymuned leol ar nifer o brosiectau. Dyma gyfle gwych i gydweithio â phobl o’r un anian ac i ehangu lleoliadau ein rhaglen diwrnodau gwaith gwirfoddol i ardaloedd newydd.

CLUDIANT AM DDIM O GYFFORDD BANGOR A CHAERNARFON.

10/12 Prysgoedio Gwern – Abergwyngregyn: Rydym yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr Gwarchodfa Abergwyngregyn i brysgoedio’r goedlan Gwern yn Abergwyngregyn. Rhennir y goedlan Gwern yn sawl rhan, a chânt eu cylchdroi trwy raglen prysgoedio sy’n para 10 mlynedd. Diben prysgoedio’r Gwern yw hybu twf newydd yn y coetir ac felly helpu i warchod y Gwern sy’n tyfu yno. Yn y gorffennol, defnyddiwyd y Gwern gan wneuthurwyr clocsiau a arferai deithio i Abergwyngregyn i gasglu’r Gwern i wneud gwadnau eu clocsiau. Roedd y ffaith fod Gwern yn wydn yn golygu ei fod yn bren perffaith i’w ddefnyddio, yn enwedig o dan amgylchiadau gwlyb. Er bod y gwneuthurwyr clogsiau wedi hen ddiflannu, mae’r Gwern yn dal yno, felly dewch i’n helpu i’w gwarchod.

12/12 Diwrnod Gwaith Cors Bodgynydd: Saif Cors Bodgynydd dafliad carreg o Tŷ Hyll, ac mae’n fosaig hyfryd o nentydd dŵr agored, gwlypdiroedd, glaswelltir asidig a rhostir. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i ofalu am y safle prydferth hwn, beth am ymuno â Chymdeithas Eryri a warden Cors Bodgynydd, Rob Booth, ar 12 Rhagfyr? Byddwn ni’n helpu i reoli ymlediad coed pinwydd yn y gwlypdir trwy ddadwreiddio a thorri glasbrennau a bydd Rob ar gael i roi cyflwyniad i’r safle ac i ateb unrhyw gwestiynau – a gallwch chi hyd yn oed fynd â choeden Nadolig adref gyda chi!

CLUDIANT AM DDIM O GYFFORDD BANGOR A CHAERNARFON.

13/12 Gwneud Plethdorchau Nadolig: Methu meddwl am yr anrheg Nadolig perffaith? Neu a ydych chi chwilio am weithgaredd i’w wneud ar brynhawn Sul oer a gaeafol… Beth am fynd i hwyl yr ŵyl ac ymuno â Chymdeithas Eryri yn y Tŷ Hyll i greu Plethdorch Nadolig? Byddwn ni’n mynd i’r coetir i gasglu defnyddiau ar gyfer eich plethdorchau, yn cynhesu trwy fwynhau paned ger y tân, ac yna bydd hi’n bryd i chi greu eich campweithiau. Croesawir plant ac oedolion ond mae lle yn gyfyngedig, felly cysylltwch â ni os gwelwch yn dda os hoffech chi gyfranogi! Bydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim ond croesawir cyfraniadau yn gynnes.

15/12 Diwrnod Gwaith yng Nghoetir Tŷ Hyll: Mae’r gwaith o gynnal a chadw ein coetir ysblennydd yn dibynnu ar haelioni ein tîm rhagorol o wirfoddolwyr ymroddedig. Pa un ai a hoffech chi helpu â’n harolwg o adar neu rywbeth mwy corfforol fel cynnal llwybrau troed, ymunwch â ni i fynd i’r afael â thasgau’r mis hwn yn y coetir!

Tŷ Hyll: Gardd Bywyd Gwyllt, bob dydd Llun: Cyfle i helpu i gynnal a chadw gardd a choetir hardd Tŷ Hyll.

Cysylltwch ag Owain i gofrestru:
owain@snowdonia-society.org.uk
01286 685498

Comments are closed.