Yn eisiau: mynyddwyr i ganfod hutanod y mynydd

dotterel_snowdonia

A fyddwch chi’n treulio amser ar fynyddoedd uchel Eryri?  Allwch chi ein helpu i ganfod hutan y mynydd, aderyn hardd ac arbennig sy’n trigo fry yn y mynyddoedd?

Mae hanes bywyd yr hutan yn anarferol iawn.  Mae hutanod benywaidd yn fwy lliwgar na’r gwrywod, a’r benywod fydd yn gwneud mwyafrif yr ystumiau paru. Ar y llaw arall, yr hutanod gwryw fydd yn gwneud mwyafrif y gwaith o ori’r wyau a magu’r cywion.

Ar ben hynny, bydd llawer o’r hutanod benywaidd fydd yn dodwy nythaid o wyau ym Mhrydain yn eu gadael yng ngofal ceiliog ac yn hedfan i rannau gogleddol yr Arctig, ac yn magu ail nythaid gan geiliog arall.

Mae hutanod yn adar hynod ymddiriedus; yn aml iawn, byddan nhw bron iawn yn cael eu sathru dan draed neu bydd pobl yn gallu eu gwylio ychydig lathenni i ffwrdd.  Yn amlwg, rhaid i ni osgoi amharu arnyn nhw a rhaid i ni fod yn gyfrifol am gŵn ar y copaon.

Bydd yr hutanod yn chwilio am y tir uchaf un yn Eryri, ond nid ydyn nhw’n hoffi creigiau geirwon na rhigolau dwfn, felly gan amlaf, byddwch yn gallu eu gweld yn nannedd y gwynt ar gribau a llwyfandiroedd llydan, bron iawn bob amser uwchlaw 700m.

Rydym ni’n disgwyl i’r hutanod gyrraedd unrhyw ddiwrnod – Mai yw’r cyfnod prysuraf i weld yr adar hyn, a byddan nhw’n aml iawn yn cael eu gweld mewn grwpiau bychan.  Rydym ni’n dymuno gwybod rhagor ynghylch pa ardaloedd byddan nhw’n eu defnyddio a phryd, a byddwn ni’n anfon eich cofnodion at Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, i gyfrannu at yr wybodaeth ehangach am yr aderyn diddorol hwn.

Os byddwch chi’n ddigon ffodus i weld hutan (dydyn nhw ddim yn gyffredin), rhowch wybod i ni trwy e-bostio info@snowdonia-society.org.uk ac anfonwch lun hefyd os gallwch chi.

Gwyliwch y fideo hyfryd hwn i godi awydd arnoch chi i’w gweld!  Os gwelwch yn dda, rhowch wybod i fynyddwyr eraill am ein cais i gael gwybodaeth am unrhyw hutanod a welir.

Comments are closed.