Dyfodol Eryri – eich cyfle i cymryd rhan yn yr ymgynghoriaeth

Dyfodol yr Wyddfa: Galw am Ymateb

Heddiw, (Dydd Iau, 15 Mehefin), mae Partneriaeth yr Wyddfa, sy’n cynnwys ystod o sefydliadau sy’n gofalu ac yn gyfrifol am ddyfodol Wyddfa, yn dechrau ymgynghori ar Gynllun Partneriaeth Yr Wyddfa

 Mae Cynllun Partneriaeth Wyddfa nodi sut y bydd aelodau’r Bartneriaeth yn cyflawni eu gwaith yn ardal yr Wyddfa mewn ffordd gydlynol. Mae’n tynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd gan y Bartneriaeth hyd yn hyn, yn rhoi gwybod i bobl am yr hyn y mae’r Bartneriaeth yn ceisio ei gyflawni a bydd yn cael ei ddefnyddio i fynd ar drywydd mwy o fuddsoddiad yn yr ardal er mwyn cyflawni gweledigaeth y Bartneriaeth.

Helen Pye, Rheolwr Partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n esbonio ymhellach,

“Mae safbwyntiau a syniadau pobl yn hynod o bwysig i ni a dyna pam ein bod yn darparu’r cyfle hwn i bobl a mudiadau roi eu adborth ar y Cynllun drafft. Mae sicrhau mewnbwn gan eraill mor bwysig i ni fedru cynhyrchu’r Cynllun gorau posib ar gyfer yr ardal, a bydd y cynllun yn sgil hyn yn esblygu ac yn cael ei addasu fel y bo’n briodol. ”

Bydd ymgynghoriad ar-lein yn dechrau heddiw ar http://www.snowdonpartnership.co.uk/ ac yn parhau tan Orffennaf 7fed. Mae sesiwn galw heibio hefyd wedi cael ei drefnu ar gyfer y 4ydd o  Orffennaf rhwng 2:00 a 7.30yh yn y Mynydd Gwefru, Llanberis.

Delwedd: www.danstruthersphotography.co.uk 

 

Comments are closed.