Wynebu her wahanol

Bydd John Harold yn mentro i’r bryniau i gynorthwyo arwyr cadwraeth yn Eryri

Yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, mae John Harold wedi wynebu sawl her – yn amrywio o ymgyrchoedd pwysig i warchod ein Parc Cenedlaethol i ganfod yr adnoddau sy’n ofynnol i ddatblygu gwaith cadwraeth ymarferol y Gymdeithas ledled Eryri.

Ddiwedd mis Mehefin eleni, bydd John yn wynebu her wahanol – Her Eryri yn benodol – taith gerdded 100 cilomedr yn Eryri sy’n para 3 diwrnod ac sy’n cynnwys dros 5,000 medr o waith dringomae hynny’n fwy nag uchder Mont Blanc.  Cynhelir yr her o 29 Mehefin i 1 Gorffennaf, a bydd y cyfranogwyr yn cychwyn ar eu taith bob dydd o Fetws y Coed.

Dywed John:

   Bydd yr her yn waith go galed i mi, ond rwy’n benderfynol o’i chyflawni.   Rwy’n codi arian fel arwydd o barch at wirfoddolwyr a staff Cymdeithas Eryri sy’n mentro allan ym mhob tywydd i helpu i ofalu am ein Parc Cenedlaethol godidog.  Heb os, maent yn arwyr.   Gyda’i gilydd, maent wedi buddsoddi cyfanswm o 10,800 awr o’u hamser i ofalu am Eryri yn ystod y 3 blynedd diwethaf.   Credaf y dylwn innau wneud ymdrech deg hefyd… 

Mae’r Gymdeithas yn cynnig help llaw i Eryri a llais eglur o’i phlaid hi.   Ond mae hefyd yn ymwneud â’r galon – mae gan bawb ohonom ni ein perthynas ein hunain â’r lle arbennig hwn.   Os gwelwch yn dda, cefnogwch Her Eryri – gyda’n gilydd, gallwn ni oll wneud ein rhan, gwneud gwahaniaeth, a dangos pa mor bwysig yw Eryri i ni.

Diolch o galon am eich cefnogaeth!” ‘ 

Nid oes llawer o amser yn weddill! Os gwelwch yn dda, cefnogwch Her Eryri John

CYFRANNWCH ar-lein trwy gyfrwng LocalGiving: https://localgiving.org/fundraising/snowdonia-challenge-john-2018/ 

Neu cysylltwch â’r swyddfa i gael gwybod am ddulliau eraill o gyfrannu:

01286 685498

info@snowdonia-society.org.uk

PAM Y DIGWYDDIAD PENODOL HWN?

Dywed John:  “Dewisais y digwyddiad hwn oherwydd mae wedi’i drefnu’n dda ac wedi’i gynllunio’n ofalus.   Ni ddefnyddir unrhyw ddeunyddiau plastig untro gan y digwyddiad hwn, ac mae’n osgoi’r atyniadau gorbrysur megis yr Wyddfa ei hun, yn tywys pobl i fannau hyfryd a all ymdopi ag ymwelwyr, ac – fel digwyddiad dros sawl diwrnod – mae’r economi leol yn elwa ohono.   Mae’r trefnwyr hefyd yn sicrhau y cedwir y digwyddiad ar raddfa synhwyrol ac mae ethos y digwyddiad yn gyfeillgar ac yn anghystadleuol.  Lleolir trefnwyr Her Eryri yn Eryri ei hun, a byddant yn gweithio’n galed i roi rhywbeth yn ôl i’r amgylchedd y maent yn gweithio ynddo.”

Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiad Her Eryri ar gael  yma.

Comments are closed.