Fy Wythnos o Brofiad Gwaith gyda Cymdeithas Eryri, gan Mark Bridges

Fy Wythnos o Brofiad Gwaith gyda Cymdeithas Eryri, gan Mark Bridges

Yng Ngorffennaf 2017, cyfranogais mewn arolwg o lygod y dŵr gydag aelodau Cymdeithas Eryri, dan arweiniad Bill Taylor.

Yn gyntaf, cawsom weld enghreifftiau o arwyddion o lygod y gwair, llygod y dŵr, dyfrgwn a chwsitlod. Roedd yr arweinyddion yn hynod wybodus ac roedd y profiad yn addysgol dros ben. Roedd arwyddion y mamaliaid hyn yn gynnig iawn, a chyn yr arolwg, ni fyddwn i wedi sylwi arnynt, hyd yn oed pe bawn i wedi cerdded drostynt. Ond ar ôl cael gweld enghreiffiau yn y gwyllt, daeth yn haws canfod a nodi arwyddion o’r anifail.

Fe wnaethom ni rannu yn ddau grŵp, un ar bob ochr i’r afon, a symud yn araf ar hyd y lan. Ar y dechrau, roeddem ni’n chwilio am arwyddion o lygod y gwair oherwydd maent yn debyg iawn i lygod y dŵr. Fe wnaethom ni agor twmpathau glaswellt i ganfod mannau bwyta a thoiledau. Bydd y llygod hyn yn torri’r glaswellt ar ongl pedwar deg pum gradd nodedig, ac yn gadael ychydig o’u baw mewn mannau penodol. Unwaith, fe wnaeth llygoden y maes ifanc wichian, ond ni wnaethom ni chwilio amdano oherwydd nid oeddem ni’n dymuno brawychu’r creadur bychan. Bod tro, fe wnaethom ni wthio’r glaswellt yn ôl i’w le i osgoi difrodi cynefin y llygod.

Darllen yr arwyddion

Mae’r gwahaniaethau rhwng arwyddion  llygoden y dŵr a rhai llygoden y gwair yn eithaf cynnil. Er bod llygod y dŵr yn llawer mwy na llygod y gwair, maent yn eithaf tebyg ac mae eu cynefinoedd yn gorgyffwrdd felly mae gwahaniaethu rhwng agweddau o’u hymddygiad yn eithaf anodd. Mae baw llygod y dŵr yn fwy, ac maent yn tueddu i dorri darnau mwy o wair na llygod y gwair. Yn aml iawn, bydd toiledau a mannau bwyta llygod y dŵr yn union ar lan yr afon a weithiau yn y dŵr. Mae ganddynt redfeydd y byddant yn eu defnyddio’n rheolaidd neu byddant yn teithio trwy’r un llecyn yn rheolaidd.

Roedd gan Bill esgidiau pysgota uchel, ac roedd yn yr afon yn ystod y rhan fwyaf o’r arolwg. Cafodd gipolwg unigryw ac fe wnaeth ddatguddio sawl arwydd cuddiedig o lygod y dŵr na fyddem ni wedi canfod ein hunain.

Cyn yr arolwg, fe wnaeth David Thorpe osod rafft mincod a thrap camera. Mae’r rafft mincod yn fwrdd sy’n arnofio wedi’i glymu wrth y lan â thwnnel y gall anifeiliaid gerdded trwyddo. Mae clai meddal yn y twnnel, sy’n cofnodi olion traed yr anifeiliaid sy’n cerdded ar ei draws. Mae mincod yn hoffi archwilio pethau newydd ac mae’r twnnel yn eu denu. Mae’n bwysig chwilio a oes mincod, yn enwedig mewn mannau ble ceir llygod y dŵr, oherwydd maent yn rhywogaeth ymledol ac maent wedi hela llygod y dŵr a’u difa yn llwyr mewn rhai mannau. Daethpwyd â mincod i Brydain o’r America i’w magu am ffwr yn wreiddiol, a dihangodd nifer i’r gwyllt. Gall mincod hela llygod y dŵr yn eu tyllau ac yn y dŵr, felly ni all y llygod ddianc. Yn ffodus, ni welwyd olion traed mincod ar y rafft, dim ond rhywfaint o faw llygod y dŵr.

Byrbryd melys am llygoden y dŵr lwcus!

Roedd y trap camera mewn crac ar lan yr afon, ac fe wnaeth Dave wthio darn o bren trwy damaid o fanana a gwthio’r pren i mewn i’r ddaear o flaen y trap. Roedd y delweddau o’r camera yn hynod ddiddorol. Fe wnaeth llygoden y dŵr ganfod y banana ymhen dim, ac fe wnaeth yr anifail bach barus fwyta’r darn cyfan ei hun, a’i fwyta nes oedd hi’n hwyr yn y nos. Hyd yn oed ar ôl i’r banana ddiflannu, fe wnaeth llygoden (yr un lygoden y dŵr yn ein tyb ni) ddychwelyd i lyfu’r darn o bren a chnoi’r ddaear o’i amgylch.  Roedd y creadur yn dymuno cael rhagor o fanana, oherwydd mae’n debyg mai dyma’r peth mwyaf blasus iddo’i brofi erioed oherwydd, fel arfer, glaswellt wrth lannau afonydd yw eu hunig fwyd. Fe wnaeth y camera hefyd recordion llygod y dŵr yn nofio, llygoden gota, siglennod llwyd, chwistlod a hyd yn oed pysgodyn bychan. Roedd eu hymddygiad yn ddiddorol iawn, ac roedd y siglennod fel pe baent yn cerdd i’r un cyfeiriad bob tro, oedd yn awgrym fod eu nyth rywle ymhellach i lawr glan yr afon. Fe wnaeth un o lygod y dŵr gerdded yn syth i fyny ochr glan yr afon, oedd yn llethr fertigol fwy neu lai, ac roedd y shwistlod yn symud yn gyflym iawn o ystyried eu maint.

Mae lluniau o’r trap camera isod yn dangos y llygoden y dŵr yn mynd at y fanana, yn ymddangos i ofyn am fwy o fwyd, ac yn nofio i ffwrdd yn llawn! Trydydd llun o’r chwith: siglen lwyd.

VOLE ACTIVITY

Mewnwelediad gwerthfawr

Ar y cyfan, roedd yr arolwg yn llwyddiannus iawn, a chofnodwyd llawer iawn mwy o arwyddion o lygod y dŵr na’r flwyddyn flaenorol, pan wnaed arolwg tebyg ar hyd yr un darn o afon. Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr a chefais gipolwg gwerthfawr ar y dull o gynnal arolwg. Fe wnaethom ni weld enghreifftiau eraill o fywyd gwyllt yn ystod yr arolwg, yn cynnwys mursen fawr goch, cudyll coch (neu gudyll bach o bosibl), a gweision y neidr eurdorchog, sef gweision y neidr mwyaf y DU.

Yr oeddwn i wedi cyfranogi mewn rhywfaint o arolygon cyn hynny, ynghylch gwenyn ac adar yn bennaf, ond nid ar hyd glan afon, ac nid oedd yr arolygon blaenorol mor fanwl. Pan ddychwelaf adref o fy mhrofiad gwaith, byddaf yn cysylltu â fy ngrŵp bywyd gwyllt lleol i weld pryd bwriedir cynnal arolygon tebyg, fel gallaf gyfranogi.

 

Comments are closed.