Fy Lleoliad Gwaith gyda Chymdeithas Eryri, gan Emma Wilson

Fy Wythnos o Leoliad Gwaith gyda Chymdeithas Eryri, gan Emma Wilson

EmmaHelo, Emma Wilson ydw i.  Rwy’n Fyfyrwraig Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf i newydd gwblhau lleoliad gyda Chymdeithas Eryri

Roeddwn i’n dymuno gwneud fy lleoliad gyda Chymdeithas Eryri oherwydd roeddwn yn dymuno gweithio yn yr amgylchedd lleol gyda sefydliad oedd yn frwdfrydig ynghylch gwarchod a chynnal yr amgylchedd. Wrth ymchwilio i gwmnïau sy’n malio am ac yn frwdfrydig ynghylch yr amgylchedd, roedd Cymdeithas Eryri yn sefyll ben ac ysgwydd uwchlaw’r gweddill i mi, felly fe wnes i ymgeisio am y lleoliad ac roeddwn i’n ddigon ffodus i lwyddo. 

Cychwynnais fy lleoliad trwy gysgodi Owain cyn ymgymryd â rôl mwy arweiniol ei natur yn ystod y diwrodau gwaith, ac yn sgil hynny, fe wnes i arwain fy nigwyddiadau fy hun, megis plethu helyg.  Rwyf i wedi mwynhau fy lleoliad o’r dechrau i’r diwedd, ac mae’n amlwg wedi fy helpu i wella fy nghwybodaeth am yr amgylchedd lleol a sut i’w warchod trwy wneud pethau megis glanhau draeniau ar yr Wyddfa a Chynnal Arolwg o Lygod y Dŵr.  Rwyf i hefyd wedi datblygu dealltwriaeth ynghylch pam bydd pob tasg cadwraeth yn digwydd, er enghraifft, clirio Ffromlys Chwarennog oherwydd mae’n rhywogaeth ymledol estron sy’n atal planhigion cynhenid rhag tyfu yn yr ardal.  Mae’r lleoliad hefyd wedi caniatau i mi wella a datblygu sgiliau ymarferol na fyddwn i wedi gallu eu dysgu yn y brifysgol a gallu cwblhau’r Uned Sgiliau Cadwraeth Ymarferol Lefel 2. Achredir yr Uneb hon, ac mae hynny wedi fy helpu i wella fy ngwybodaeth am asesu risgiau a sgiliau ymarferol yn y maes. Mae hefyd wedi fy nghynorthwyo i ennill cymhwyser a allai gynorthwyo â fy ngyrfa yn y dyfodol. 

Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael mynychu Picnic Dathlu’r Hanner Canmlwyddiant a chwrdd â rhai o aelodau Cymdeithas Eryri.Roedd hi’n hyfryd clywed faint maent yn cefnogi’r Gymdeithas ac am eu hatgofion am Esmé a sefydlodd y Gymdeithas. 

Rwyf i wedi mwynhau fy amser yn gweithio i’r Gymdeithas ac yn dysgu amdani, cwrdd â nifer o bobl ysbrydolgar a gweld rhai o’r golygfeydd mwyaf anhygoel.  Rwy’n ffodus fy mod i wedi gallu dysgu am a helpu i warchod Eryri, ac rwy’n bwriadu parhau i wneud hynny. Byddwn yn argymell y lleoliad hwn i unrhyw un a hoffai weithio ym maes cadwraeth.

Emma and Margaret resized resized

Comments are closed.