Peidiwch â gadael dim ond olion traed…

Oes ots gennych am ddyfodol Eryri? Os oes, peidiwch a gadael dim ond olion traed. Ewch gam ymhellach a gadewch olion parhaus… Gadewch gymynrodd i Gymdeithas Eryri.

Mae rhoddion o ewyllysiau yn rhan hanfodol o’n hincwm, ac mae llawer o gymynroddion bychan yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r hyn gallwn ei gyflawni. Os byddwch yn ysgrifennu eich ewyllys, wedi i chi gofio eich teulu a’ch ffrindiau, ystyriwch adael cymynrodd i Gymdeithas Eryri os gwelwch yn dda.

Lawr-lwythwch y pamffled gymynrodd yma

Mae gadael cymynrodd i elusen yn gostwng y dreth etifeddiant sy’n ddyledus ar eich ystâd, a mae gadael mwy na 10% o werth eich ystad i elusen yn lleihau eich cyfradd treth etifeddiant gyffredinol. (Gweler gwefan Cyllid a Thollau EM).

Pan fyddwch yn ysgrifennu neu’n golygu eich ewyllys, mae sawl dull o adael cofrodd i Gymdeithas Eryri.

  • gadewch swm penodol, sef Cofrodd Ariannol
  • gadewch ran neu’r cwbl o’ch stad wedi i roddion eraill gael eu dosbarthu –  Gofrodd Weddilliol
  • gadewch Rodd mewn Nwyddau, hy rhodd o gyfranddaliadau, eiddo, neu unrhyw eitemau eraill yr hoffech efallai eu gadael i’r elusen.

Gofyn am roddion yn lle blodau

Gallwch hefyd gofyn i eich teulu a’ch ffrindiau gyfrannu at Gymdeithas Eryri yn lle rhoi blodau. Neu gallwch enwi Cymdeithas Eryri i dderbyn rhoddion er eich cof.

Rhodd i natur Eryri ac i genedleddau y dyfodol

Byddem yn ddiolchgar iawn am eich rhodd, un nai’n fach neu’n fawr, bydd yn cael ei roi i ddefnydd da i helpu i ddiogelu tirwedd odigog Eryri ymhell i’r dyfodol.

Nid oes neb yn byw am byth. Ond braf fyddai gwybod eich bod wedi gwneud eich rhan i ddiogelu bywyd gwyllt a thirwedd Eryri er mwyn i’n plant a’n wyrion gael eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.

Siarad â’n arbenigydd

Os ydych ag unrhyw gwestiynnau am gymynroddion ne am dreth etifeddiant, rhowch ganiad i drefnu cael sgwrs â  Judith Bellis, ein cyfrifydd, sy’n arbenigydd mewn treth etifeddiant.

Rydym yn aelod o: