Cyngor Gwynedd yn gwastraffu tunelli o CO2…

…drwy dirlenwi sbwriel caniau diod

Mae Dilwyn Williams (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd) yn haeddiannol falch o’r 500 tunnell o CO2 a arbedwyd o ganlyniad i fesurau newydd rheoli gwastraff. A chwarae teg i’r Cyngor am y cynnydd eleni mewn ailgylchu caniau diod drwy’r bocsys glas (o 100 i 136 tunnell), gan arbed 300 tunnell ychwanegol o CO2.

Felly pam mae Cyngor Gwynedd yn tirlenwi degau o dunelli o alwminiwm bob blwyddyn, yn gwastraffu llawer mwy o dunelli o CO2?

Tra bod y Cyngor yn annog i ddeiliaid tai wahanu ac ailgylchu eu gwastraff, mae’r holl sbwriel sy’n cael ei godi gan lanhawyr stryd Cyngor Gwynedd yn cael ei dirlenwi. Mae hyn yn cynnwys miliynau o ganiau diod alwminiwm.

Maint aruthrol o ynni

Can alwminiwm

Mae codi ac ailgylchu 1 can diod alwminiwm yn arbed digon o ynni i neud 14 panad.

Alwminiwm yw dros 95{cfe7b007ef2d97d6c94c66bdf5fd69182957ee376eb8b20ce6b541889da3df98} o ganiau diod. Mae cynhyrchu alwminiwm o focsit craidd yn defnyddio maint aruthrol o ynni, ac mae pob tunnell o ganiau diod sy’n cael eu tirlenwi yn cynrychioli bron i 9 tunnell o CO2 a gwastraffwyd. Ie wir, mae ailgylchu 1 dunnell o alwminiwm yn arbed 9 tunnell o CO2!

Ar hyn o bryd mae Cyngor Merthyr Tudful yn arbed 100 tunnell o CO2 yn flynyddol drwy wahanu ac ailgylchu caniau diod sy wedi eu codi fel sbwriel, ac mae Cyngor Conwy yn mynd â sbwriel a gasglwyd i’w sortio ym Mochdre. Pryd y bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud yr un peth?

180 tunnell o CO2?

Nid yw Cyngor Gwynedd wedi llwyddo darparu ffigurau ar gyfer y tunelli o sbwriel sy’n cael eu codi gan eu 55 Glanhawr Stryd, ond o fy mhrofiad o achub caniau diod oddi ar ymylon ffyrdd a llwybrau troed Gwynedd fel rhan o fy her CodiCanArbedCarbon noddedig, caniau diod yw cymaint â hanner yr holl sbwriel, yn ôl pwysau.

Mae’n bosibl fod Cyngor Gwynedd yn tirlenwi 20 tunnell o ganiau alwminiwm bob blwyddyn, fel sbwriel. Mae hyn yn cynrychioli 180 tunnell o CO2(Ffigurau)

Mesur syml am gost anwybyddadwy

Gallai Gwynedd gynyddu ei arbedion carbon yn sylweddol drwy wahanu ac ailgylchu sbwriel caniau diod. Byddai hŵp bag bin sy’n dal dwy fag ganiatáu i lanhawyr stryd wahanu caniau a gweddill y sbwriel ar gost a llafur ychwanegol bach iawn.

Gawn ni edrych ymlaen at gyflwyniad mesur o’r fath cyn bo hir?

Noddwch fy her CodiCanArbedCarbon

A pheidiwch ag anghofio cyfrannu neu fy noddi  ar fy her i godi ac ailgylchu 3,600 can diod, a felly arbed hanner tunnell o CO2. Elw i gyd at Gymdeithas Eryri a’i gwaith cadwraeth yn y Parc a’i gwaith ymgyrchu i gadw Eryri’n wyllt ac yn hardd.

Diolch am ddarllen,
Frances
Blog CodiCanArbedCarbon
info@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.