Mae’n amser i brynu hadau a phlanhigion i’ch gwenyn lleol

Ty Hyll butterfly

A mae na ystod eang o blanhigion a hadau ar gael yn Tŷ Hyll.

Nawr yw’r amser i blannu ….

Trwy’r haf, bydd na ddewis gwych o blanhigion a hadau sy’n denu gwenyn ar werth yn Tŷ Hyll. Mae’r holl elw yn mynd tuag at gynnal a chadw Tŷ Hyll ac at y gweithgareddu yno.

Yn ogystal â dros 60 o wahanol fathau o hadau, mae gennym ddewis eang o blanhigion “cychwynnol”: perlysiau, blodau gwyllt, planhigion lluosflwydd a choed ifanc. I gyd am bris cystadleuol iawn!

 

Prynwch hadau er lles gwenyn

 

Peidiwch a cholli’r cyfle i helpu’r gwenyn!

Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn gwneud cyfraniad allweddol at natur a pheillio cnydau er mwyn cynhyrchu’r bwyd byddwn yn ei fwyta, ond o ganlyniad ddulliau ffermio modern, mae pryfed peillio yn wyneb bygythiad. Rhagor am Peillwyr o dan bygythiad.

Diolch i ein gwirfoddolwyr

plants_ty_hyllMae dyled mawr arnom i’r gwirfoddolwyr sy’n casglu’r hadau a lluosogi a photio’r planhigion.

Dros £2,000 wedi ei godi yn ystod 2015

Yn ystod 2015, gwerthywd gwerth £1,470 o pecynnau o hadau, sy’n golygu cyfanswm o £1,470! A gwerthwyd Gwerth £692 o blanhigion!

Mae’r holl elw yn mynd at ein gwaith yn Tŷ Hyll – rheoli’r gwenynfa bach yn ogystal â’r ardd a choetir ar gyfer ymwelwyr a bywyd gwyllt.

Comments are closed.