Her casglu sbwriel o’r 15 copa

Noddwch o rŵan!

I helpu i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Eryri, mae un o’n gwirfoddolwyr, Bob Smith, yn gwneud her casglu sbwriel noddedig ar 15 copa Eryri.

Noddwch Bob rŵan ar ei dudalen Local Giving a neith Local Giving dwbli’ch cyfraniad!

Mae’r her hon yn adeiladu ar ein ymgyrchu yn erbyn sbwriel yn y mynyddoedd, felly mae hyn yn ffordd wych i gefnogi gwaith Cymdeithas Eryri. Diolch yn fawr Bob!

2 ddiwrnod, 15 copa, 30 milltir … Faint o sbwriel?

Medda Bob, “Bydd yr her yn dechrau ar 7 Mehefin yn casglu sbwriel ar yr Wyddfa efo’r Gymdeithas. Byddaf wedyn yn parhau i gasglu sbwriel o gopaon Crib Y Ddysgl a Chrib Goch, yna af i i Nant Peris i gwblhau Elidir Fawr a’r Garn cyn mynd i lawr i Ogwen i gwblhau Diwrnod 1.

“Bydd Diwrnod 2 yn dechrau yn Ogwen ac yna fyny i Glyder Fawr, Glyder Fach, Tryfan,
Pen yr Ole Wen, Carnedd Dafyydd, Carnedd Llewelyn, Yr Elen, Foel Grach, Garnedd Gwenllian a Foel Fras. Yn olaf, lawr i Abergwyngregyn i gwblhau’r casglu sbwriel marathon.”

Mae’r daith tua 30 milltir â tua 13,632 troedfedd o waith dringo.”

Cewch gipolwg ar y daith yn  www.welsh3000s.co.uk/panorama

A darllenwch hanesion personol eraill codi arian i Gymdeithas Eryri .

* Bydd Local Giving yn dwbli cyfanswm y rhoddion hyd at £200

Comments are closed.