Mae Hyundai angen rhywfaint o feddwl newydd

Hyundai UK yn gweithedu’n anghyfrifol ac yn tanseilio parch am ein mynyddoedd a’n Parc Cenedlaethol. Gadewch iddyn nhw wybod eich barn.

 E-bostiwch Hyundai os gwelwch yn dda a gofynnwch iddyn nhw ail-feddwl (manylion isod)

 Slogan brand Hyundai ydy ‘New Thinking, New Possibilities’. Felly roedd yn siomedig iawn na wnaeth Hyundai ystyried mwy cyn bwrw ymlaen â hyrwyddo eu cynnyrch drwy drefnu i Hyundai Kona yrru ar hyd Llwybr y Mwynwyr, yr Wyddfa. Doedd gyrru ar yr Wyddfa ddim yn syniad hynod o greadigol – wedi’r cwbl, mae eraill wedi ei wneud o’u blaen nhw, ac yn ddiweddar mi wnaeth hynny olygu dedfryd o garchar.

Gorchest di-feddwl oedd beth wnaeth Hyundai. Y broblem efo hyn yw’r cynsail a osodir a’r ffordd y mae’n tanseilio parch dros fannau arbennig a’r gwaith o’u gwarchod.

Mae gyrru ar hyd Llwybr y Mwynwyr heb wir angen gwneud hynny yn dangos diffyg parch i’r gwaith a wneir i warchod llwybrau hanfodol yr Wyddfa. Mae elusennau fel y Cyngor Mynydda’n codi arian i Drwsio ein Mynyddoedd, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflogi tim llwybrau, ac mae gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri’n mynd allan ym mhob tywydd i gynnal a chadw llwybrau’r Wyddfa a mynyddoedd eraill.

Efallai bod Hyundai wedi cael caniatâd y tirfeddiannwr a’u bod ‘o fewn eu hawliau’, ond mae mawrygu gyrru ar yr Wyddfa yn hynod o anghyfrifol. Pan fydd y lembo nesaf yn cael ei ysbrydoli gan bethau fel hyn i yrru ar yr Wyddfa, gan niweidio llwybrau a pheryglu bywydau, pwy fydd yn gyfrifol yn y pen draw? Hyundai, tybed? Na, nid y nhw. Fel arfer, Awdurdod y Parc Cenedlaethol (a’i bartneriaid) fydd yn gorfod clirio’r llanastr a thalu’r bil. Er gwaethaf toriadau llym, fe fyddan nhw’n dal i fwrw ymlaen â’r gwaith o reoli’r Wyddfa er budd pob un o’r bobl sy’n dymuno mwynhau’r mynyddoedd mewn ffordd gyfrifol.

Felly, beth amdani, Hyundai? Beth am ddangos esiampl mwy cyfrifol, dangos mwy o barch i’n tirluniau mynyddig, a chynllunio eich hysbysrwydd law yn llaw â’r cyrff sy’n gofalu am y man arbennig hwn yn hytrach nag yn eu herbyn? Nid yr Wyddfa yw’r lle i wneud hyn.

Gweithredu

E-bostiwch natasha.waddington@hyundai-car.co.uk, pennaeth PR Hyundai UK, os gwelwch yn dda, a gofynnwch i Hyundai osod esiampl fwy cyfrifol a dangos mwy o barch tuag at y gwaith o warchod a rheoli ein mynyddoedd.

A beth am ddefnyddio rhan o gyllid cyhoeddusrwydd Hyundai i gefnogi’r gwaith llwybrau ar yr Wyddfa? Dyna i chi ffordd newydd o feddwl a fyddai’n ennyn parch.

Capture

 

 

 

 

 

 

 

 

Comments are closed.