Janet Finch-Saunders AC i agor Arddangosfa Pen-blwydd yn 50

Janet Finch-Saunders AC i agor Arddangosfa Pen-blwydd yn 50

Yr Aelod Cynulliad dros Aberconwy Janet Finch-Saunders fydd yn agor arddangosfa pen-blwydd Cymdeithas Eryri yn 50, 50 Mlynedd yn Ddiweddarach, yn Eglwys St Julitta yng Nghapel Curig ar ddydd Sul 23 Gorffennaf. Crëwyd yr arddangosfa arbennig ar y cyd â chyfeillion Eglwys Julitta a bydd yn tywys y darllenwyr ar daith drwy hanes y Gymdeithas ers ei sefydlu ym 1967.

Gwahoddiad i aelodau a’r sawl nad ydyn nhw’n aelodau i alw draw

Ymunwch â ni yn ein hachlysur arbennig am 3yp ar ddydd Sul 23 Gorffennaf i fwynhau lluniaeth ysgafn a gwydraid o ddiod yn yr eglwys fach hanesyddol hon yng Nghapel Curig. Parcio yn y pentref neu ym Mhlas y Brenin gerllaw.

Arddangosfa deithiol

Gellir gweld yr arddangosfa ddwyieithog hon yn Eglwys St Julitta am wyth wythnos o ddydd Sul 24 Gorffennaf hyd ddydd Llun 11 Medi, ac ar 16, 17 ac 18 Medi rhwng 11yb-4:30yp (wedi cau ar ddyddiau Mawrth). Bydd copi ychwanegol yn teithio ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol dros y misoedd i ddod ac yn cael ei dangos yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau isod:

Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar iawn i Harvey Lloyd ac i Gyfeillion Eglwys Santes Julitta am eu gwaith ar yr arddangosfa.

Cydnabyddiaeth i’r llun: Graham A Stephen 


Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd.

Comments are closed.