‘Llwybr Llechi’ newydd yn tynnu sylw at natur a diwylliant cyfoethog Eryri

‘Llwybr Llechi’ newydd yn tynnu sylw at natur a diwylliant cyfoethog Eryri

Mae llwybr newydd sbon wedi cael ei sefydlu yn Eryri gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ogystal â llawer o fudiadau lleol, gan gynnwys Cymdeithas Eryri yn ei hanner canmlwyddiant.

Slate Trail mapMae’r llwybr yn gylchdaith o 85 milltir o hyd sy’n dechrau ym Mhorth Penrhyn, ger Bangor, ac yn pasio drwy nifer o bentrefi hanesyddol yn Eryri yn cynnwys Bethesda, Llan Ffestiniog a Betws-y-coed. Gweledigaeth y prosiect yw tynnu sylw at hanes diwylliannol trefi a phentrefi Eyri ac i ddatguddio’r nifer o ‘drysorau naturiol’ sydd i’w ddarganfod pellach i ffwrdd o’r mannau mwy poblogaidd yn Eryri.

DSC00948Fe wnaeth Swyddog Prosiect Cymdeithas Eryri Owain Thomas arwain grwpiau o wirfoddolwyr i adeiladu rhai o arwyddion y llwybr rhwng Cwm Penmachno a Chwm Idwal yn ôl i yn fis Awst. Dywedodd o: “Roedd ‘na theimlad amlwg rhwng y gwirfoddolwyr bod o’n wych i allu cerdded yn y mannau o’r Parc Cenedlaethol rydym fel arfer yn eu hanwybyddu”.

23347856_2005641319654921_314841813129101312_nY gobaith yw fod creadigaeth y llwybr newydd am denu cerddwyr pellter byr a hir i’r ardal, ac y byddant yn defnyddio’r nifer o fentrau cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol i fanteisio’r economi lleol.

Ar ddydd Gwener 10fed o Dachwedd cynhaliwyd lansiad swyddogol Llwybr Llechi Eryri i’r cyhoedd, gyda cherddoriaeth fywiog gan Gôr Meibion Penrhyn a chelf ddeniadol gan blant ysgolion lleol a gymerodd rhan yn y prosiect.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y llwybr newydd cyffroes yma ac i lawrlwytho’r mapiau.

 


Cymdeithas Eryri: Yn gwarchod, gwella a dathlu Eryri ers 50 mlynedd

Comments are closed.