Gweithiodd ein gwirfoddolwyr trwy dywydd gwallgof mis Mawrth!

Cafwyd ysbeidiau heulog ym mis Mawrth, ond bu’n rhaid i’n gwirfoddolwyr wynebu rhywfaint o law trwm hefyd.  Fe aethant allan yn y glaw a’n hindda i blannu coed, glanhau traethau, trwsio ffensys, garddio er budd bywyd gwyllt a chynnal a chadw coetiroedd.  Diolch yn fawr iawn iddyn nhw: ym mis Mawrth, fe wnaethant weithio ymhell dros 200 awr yn gofalu am Eryri.

Conifer ID

Cwrs adnabod coed Conwydd, Mawrth 2017

Cynhaliwyd ein cwrs cyntaf ym mis Mawrth hefyd: cyflwyniad i adnabod coed conwydd.  Cyfranogodd 12 o bobl, ac fe wnaethant fwynhau’r gweithgaredd ar waethaf y glaw.  Fe gwirfoddolwyr, roedd y cwrs hwn ar gael iddynt yn rhad ac am ddim.  Byddwn ni’n cynnal nifer o gyrsiau a gweithdai yn ystod y flwyddyn, felly cadwch lygaid barcud ar ein tudalen hyfforddiant a chyrsiau i weld a oes rhywbeth yn denu eich diddordeb.

Ddim yn wirfoddolwr? Peidiwch â phoeni! Bydd gennym ni lawer o gyfleoedd i’w cynnig yn fuan! Mae croeso i bawb ac nid oes angen unrhyw brofiad.

Comments are closed.