Cyfeiriannu yn y mynyddoedd: Sul 22 Tachwedd

Llefydd ar gael.

A pheidiwch ag angohofio’r digwyddiadau yn Tŷ Hyll, sy’n cynnwys Casgliad Sbwriel ar y llwybrau ger llaw, diwrnod Bywyd Gwyllt y Gaeaf a Diwrnod Gwaith yn y coetir. Mae Owain yn awyddus Owain i groesawu gwirfoddolwyr newydd ar ei ddyddiau gwirfoddoli, ee Diwrnod Rhododendron Trwy Gyfrwng y Gymraeg a diwrnod Rheoli Rhododendron Melyn.

Cyfeiriannu yn y mynyddoedd, Sul 22 Tachwedd, Llanberis

Sesiwn hyfforddiant trwy’r dydd yn y mynyddoedd dan arweiniad Alun Pugh, yn dysgu sgiliau cwmpawd, cyflymdra cerdded, llywyo mewn tywydd mynydd drwg, ac ati. Lefel sylfaenol hyd at ganolradd. Yn dilyn sgwrs ragarweiniol, bydd Alun yn mynd â’r grŵp allan i ymarfer sgiliau llywio ar y mynyddoedd uwchben Llanberis. Arweinydd dwyieithog. Aelod £10; ddim yn aelod £20.

Archebu lle’n hanfodol:

 01286 685498
info@snowdonia-society.org.uk

Comments are closed.